Tudalen:Y Cychwyn.djvu/139

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

𝒫𝑒𝓃𝓃𝑜𝒹 6

UNWAITH y torrodd yr ias, cofiodd yr hen weinidog, nid oedd pethau'n anodd iawn wedyn. Rhywfodd, yn y pentref ac yn y chwarel, disgwylid iddo fod yn "wahanol", yn llanc dwys a difrifol, ac, a'i feddwl ar y llyfrau a ddarllenai a'r pregethau a luniai, gorau'n y byd ganddo oedd hynny. Pregethodd ddwywaith wedyn yng ngŵydd ei weinidog, cyflwynwyd ei achos i ystyriaeth y Cyfarfod Dosbarth yn nechrau'r flwyddyn, holwyd ef yn gyhoeddus un nos Fawrth yn y Seiat gan Ifan Hughes, Caer Heli, a hen flaenor caredig o'i eglwys ef, pleidleisiwyd yn unfrydol o'i blaid yn Siloam, trefnwyd cylchdaith iddo o fewn y Dosbarth, ac wedi derbyn. bendith y Cyfarfod Dosbarth a'r Cyfarfod Misol cychwynnodd ar ei "flwyddyn brawf" yn nechrau'r haf. Cyn hir gallai gyfrif ei bregethau ar fwy na bysedd un llaw, a châi, drwy ddylanwad Owen Gruffydd yn fwyaf arbennig, gyhoeddiadau aml, rhai ohonynt tu allan i gylch y Cyfarfod Misol, a chaniatâd parod Richard Davies, y Stiward Gosod, i ddechrau gweithio weithiau ar brynhawn yn lle ar fore Llun. Fel rheol, pymtheg swllt a enillai ar y Sul, ond rhoddid iddo bunt yng Nghaer Heli a lleoedd tebyg, a phum swllt ar hugain mewn rhai eglwysi pell. Cadwai'r rhan fwyaf o'r arian yn ofalus, gan wybod y byddai angen pob dimai arno pan âi i Ysgol Ragbaratoawl y Bala ym Medi'r flwyddyn wedyn.

"Paid di â phoeni am y pres, 'rŵan," oedd siars Dafydd un nos Sul pan gyrhaeddodd Owen adref o Lan Eithin â dim ond chweugain yn lle pymtheg swllt yn ei boced. "Ac Enid yn cadw'i hun yng Nghaer Helia Myrddin wedi dechra' ennill tipyn,