Tudalen:Y Cychwyn.djvu/142

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hi adref o Gaer Heli nos Iau, ond cyrhaeddodd y brêc olaf Lan Feurig hebddi a noswyliodd pawb gan gredu mai'r bore wedyn. y dôi hi. Derbyniwyd llythyr oddi wrthi yn y bore â'r newydd fod ei meistres yn wael iawn ac na fedrai ei gadael, a chytunodd Myfanwy, chwaer Wil, i fod yn forwyn briodas yn ei lle. Cawr o ddyn gwladaidd, afrosgo, oedd y priodfab o hwsmon, yn araf a chynnil ei eiriau, a dwfn iawn ei lais. Edrychai fel hogyn mawr, yswil, a dyfasai'n sydyn yn ŵr, ac er y deuai tros Fyrddin ysfa chwerthin am ben ei draed enfawr, a ymddangosai'n fwy fyth islaw culni hosanaidd coesau'i drowsus, hoffodd pawb ei ddidwylledd syml, elfennol, ar unwaith. Yn y pridd, yn dilyn yr og neu'r aradr efallai, yr oedd y traed hynny hapusaf, a thipyn o dreth arnynt oedd cludo urddas a chyfrifoldeb priodfab i ddieithrwch Llan Feurig. Ceisiai John—rhythai'i lygaid a'i geg ar bwy bynnag a'i galwai'n "Mr. Williams", fel petai'n amser at bwy y cyfeirid—ddianc o'i yswildod drwy wenu a wincio ar bopeth a ddywedid wrtho a chwibanu'n ddi-baid alaw hollol anhyglyw hyd yn oed iddo ef ei hun. Dim ond pan fwytâi neu pan siaradai y peidiai'i wefusau â gwneud cylch chwibanog, a phob tro y deuai Elin i'r gegin gofalai hi am wthio tamaid o gyflaith i'w safn.

Cysgai John yn Nhŷ Pella' y noson honno ac aeth Owen yno gydag ef, yn gwmni iddo: dôi'r gwas priodas, cefnder i'r priodfab, drosodd o Lan Eithin yn y bore. Buont yn siarad—neu'n hytrach bu Owen Gruffydd yn areithio, Owen yn taflu ambell air i mewn, a John yn chwibanu'n fud—tan ohydion, ac ni chododd un ohonynt yn fore iawn drannoeth. Wedi iddo eillio'i wyneb ac ymolchi a chael tamaid o frecwast, brysiodd y priodfab i'r llofft i ymwisgo, a chyn hir, ac yntau'n barod i ymbincio, ymunodd Owen ag ef yno. A'i goler a'i dei yn ei law, eisteddai John yn ei drowsus a'i wasgod wlanen ar ymyl y gwely gan syllu'n ddig ar y fasged wellt agored wrth ei draed.

"Be' sy, John?"