Tudalen:Y Cychwyn.djvu/145

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pâr ifanc at y brêc a'u cludai i Gaer Heli, lle bwriadent dreulio'u prynhawn mêl yn gweld y siopau a phrynu llestri ar y Maes cyn dychwelyd i Lŷn, tafiwyd ychwaneg o reis i esgidiau'r priodfab ac i lawr ei wddf, hongiwyd pâr enfawr o esgidiau hoelion-mawr tu ôl i'r brêc, a rhoddwyd "Hwrê!" uchel i John a'i wraig fel y cychwynnai'r cerbyd. Yna aeth Owen i ddanfon Mary adref. Dim ond gwaith tri munud a oedd i'r tŷ, ond gan iddynt ddewis y llwybr a arweiniai i fyny'r Clogwyn i olwg Bryn Llwyd a chrwydro'n ôl yn araf i lawr ochr y Fron, cymerodd y daith deirawr y prynhawn hwnnw.

Yr oedd Owen i bregethu yn eglwys Ifan Hughes yng Nghaer Heli y bore a'r hwyr drannoeth, ac fel y paratoai i gychwyn am y brêc ar ôl te,

""Ei di â'r wya' 'ma efo chdi?" gofynnodd ei fam.

"I bwy?"

"I Enid, i'w rhoi nhw i'w meistras. Maen' nhw'n ffres, newydd ddŵad o'r Hafod."

"Wel . . . O'r gora', 'Mam."

Ond ni chafodd gyfle i weld Enid y noson honno. Tynnai at saith o'r gloch pan gyrhaeddodd ei lety yn y dref a chan fod ei westeiwr, Ysgrifennydd yr eglwys, yn ŵr siaradus, trawai cloc gerllaw wyth cyn iddo feddwl am gychwyn, ac erbyn hynny clywai sŵn llestri'r swper yn y gegin. Ni ddaeth Enid i'r capel yn y bore, a phenderfynodd Owen golli'r Ysgol Sul a mynd i "Fin-y-don", y plas o dŷ yr oedd Enid yn gweini ynddo, yn y prynhawn. Yr oedd hwnnw dros hanner milltir tu allan i'r dref, ar lechwedd uwch y môr, ac fel y cerddai drwy'r gerddi hardd tua'i ddrws urddasol, teimlai gywilydd o'r blwch o wyau yn ei law.. Morwyn tua'r un oed ag Enid a atebodd y drws.

"Pnawn da. Brawd Enid ydw' i."

"O . . . y . . . " Gwridodd y ferch at ei chlustiau. "Isio gweld Meistras yr ydach chi, mae'n debyg."