Tudalen:Y Cychwyn.djvu/144

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd y gwas priodas yn aros amdanynt wrth y capel, ac wedi iddynt gymell Owen i fynd gyda hwy yno am ennyd, cerddodd y priodfab a'i was, y cyntaf â thyngedfennol sang, i'r Sêt Fawr. Ysgydwodd y Parch. Ebenezer Morris law â hwy ac yna eisteddodd ef wrth y bwrdd a'r ddau ddieithryn ar y Sêt i aros nes dôi'r briodferch a'i morwyn a Dafydd. Gwelai Owen, fel y ciliai i'r sedd gyntaf at ei daid a'i fam, y câi John beth trafferth i gadw conglau'r tsiêt rhag ymwthio tros ymyl ei wasgod, yn enwedig pan blygai ymlaen dipyn, ond ar wahân i hynny ymddangosai'r priodfab yn bur gartrefol, a dechreuasai chwibanu'n ddi-sŵn eto. Ymhen ennyd gwyrodd y gweinidog ymlaen i sibrwd rhywbeth am "certificate". Nodiodd a gwenodd John yn gyfeillgar arno, ond gan ei ddal ei hun yn syth yn erbyn cefn y Sêt Fawr. Sibrydodd Ebenezer Morris eilwaith dipyn yn uwch, a chododd Owen i gyflwyno'r neges i glust chwith John.

"Y stifficet. Ar gyfar y Cofrestrydd."

Aeth wyneb coch y priodfab yn gochach a, tsiêt neu beidio, troes i hisian yn ffyrnig: "Yr hen grys goblyn 'na. Ym mhocad fy nghôt arall i."

Safodd y gweinidog a phawb arall tra deuai Elin a Myfanwy a Dafydd i mewn i'r capel. Sleifiodd Owen allan drwy'r festri a rhuthrodd i Dyddyn Cerrig, lle, yn ffodus, y gadawsent y fasged ar eu ffordd o Dŷ Pella'. Daeth o hyd i'r dystysgrif a rhedodd bob cam yn ei ôl i'r capel. Fel y camai'n dawel heibio i'r Sêt Fawr, edrychai'r pâr ifanc fel pe baent newydd ffraeo a phenderfynu na siaradent air â'i gilydd am weddill eu hoes. Ond cafwyd hwyl wrth y bwrdd brecwast, a chan fod Mary'n un o'r gwahoddedigion, yr oedd Owen yn hapus iawn. Wedi'r bwyta, areithiodd Owen Gruffydd a'r gwas priodas yn huawdl a doniol, a dywedodd John mor falch ydoedd o gael bod yno ac o'u gweld i gyd yn edrych mor dda a'r diwrnod yn un mor braf, er nad oedd o'n licio sŵn yr hen wynt 'na yntôl. Trefnwyd gosgordd, ac Owen a Mary yn eu plith, i hebrwng y