"Mi ddylwn fod wedi aros yn hwy yn y chwaral, wsti, yn lle trio bod yn annibynnol. Ond dyna fo, 'fedrwn i ddim diodda'r John Humphries hwnnw, y cena' digydwybod iddo fo. Mae'n debyg y basa' fo a Jones-Parry yn licio clywad bod Owen. Gruffydd yn y Wyrcws. Basan', y ddau ohonyn' nhw."
"Twt, mi fydd o'n gymaint o lanc ag erioed cyn diwadd yr wsnos, Now, 'gei di weld," meddai Dafydd. "Ond 'dydi o ddim yn mynd yn 'i ôl i Dŷ Pella', mae hynny'n siŵr."
"Y?" Cododd Owen Gruffydd ar ei eistedd yn y gwely. "Rwan, o dan y dillad 'na," gorchmynnodd Dafydd. "Rydach chi wedi bosio digon ar hyd eich oes, ac mae'n hen bryd i rywun ddechra' giaffrio tipyn arnoch chi bellach. Mi fu 'Mam a finna'n siarad efo'r Doctor. A dyma'r ordors. 'Ydach chi'n gwrando?"
"Ydw', Dafydd."
"Mae'n rhaid i chi adael Tŷ Pella' a dŵad i fyw yma atom ni. 'Wn i ddim pam yr ydach chi wedi mynnu talu rhent yn fan'no drwy'r blynyddoedd."
"Yr hen aelwyd, Dafydd, yr hen aelwyd. A, Doctor ne' beidio, yr ydw' i'n mynd yn f'ôl i'r hen gartra'." Ond grym arferiad yn fwy na dim arall a'i gwnâi'n anhyblyg: nid oedd penderfyniad yn y geiriau.
"Gwrandwch, Taid, 'dydi afiechyd ddim yn beth i chwara' ag o. Yma yr ydach chi i fod o hyn allan. Mae'n Sadwrn Cyfri ddydd Sadwrn nesa', ac mi yrrwn ni'r gair allan 'fory a thrennydd a dydd Gwenar. Am y dodrafn."
Cronnodd y dagrau yn llygaid yr hen ŵr a brathodd ei wefus isaf yn ei ing. "O'r gora', Dafydd," sibrydodd ymhen ennyd, a lludded enfawr yn ei lais.
Cludwyd llawer o bethau Tŷ Pella' i Dyddyn Cerrig yn ystod y dyddiau canlynol, a phrin, meddyliai Dafydd ac Owen