Tudalen:Y Cychwyn.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

talwm yn hannar-meddw mor amal ag yr oedd o'n sobor. A phaid di â swnian wrth dy dad pan ddaw o adra'. Cofia di, 'rŵan. 'Wyt ti'n clywad?"

"Ydw', 'Mam."

Yr oedd Owen yn ddigon hen i amau pam y siarsiai ei fam ef i beidio â swnian wrth ei dad. Nid rhag iddo boeni'r chwarelwr blinedig ar ôl ei ddydd o waith, ond rhag ofn i Robert Ellis haelfrydig a llon ildio'n fyrbwyll i gais ei fab. "Cei, debyg iawn, Now bach," a ddywedai ef efallai, a'i lygaid mawr anghyfrifol yn osgoi rhai ei wraig.

"Mi wyddost be' mae dy dad wedi'i ddeud," oedd geiriau ei fam, ond gwyddai Owen mai'r hyn a ddywedai hi a oedd yn ddeddf. Yn awr, ac yntau bron yn ddeuddeg, dechreuai weld trwy frawddegau fel "Mi ofynna' i i'th dad" neu "Mi gawn ni weld be' fydd dy dad yn feddwl" neu "Dy dad sydd i benderfynu." Rhoddent i Robert Ellis awdurdod a chadernid na pherthynent iddo yn wir, treuliasai'r fam lawer o'i dyddiau'n creu ym meddwl ei phlant y syniad bod eu tad yn gawr mewn doethineb a phwyll yn ogystal ag o gorff. Ac nid hollol gywir oedd mai am fod "y 'gennod a Dafydd yn gweithio" yr oedd pethau'n well ar y teulu erbyn hyn. Nid aethai'n angof ambell nos Sadwrn pan yrrai'i fam hwy oll i'w gwelyau'n gynnar ac yr arhosai Owen yn effro i wrando am sŵn ei dad yn ymlwybro'n feddw hyd lwybr yr ardd tan ganu a siarad ag ef ei hun bob yn ail. Ond ers blynyddoedd bellach nid âi Robert Ellis ar gyfyl y Crown.

Ar y bore Llun hwnnw, fel y gwyliai Dafydd yn ymwisgo yng ngwyll y "siambar," teimlai Owen yn ddig tuag at ei frawd mawr pedair ar bymtheg. Droeon yn ystod y Sadwrn a'r Sul y ceisiasai ei gymell ef i ddadlau o'i blaid, ond yr un oedd yr ateb bob gafael—cyngor dwys i wneud yn fawr o'i gyfle i gael addysg. Hy, yr oedd yn ddigon hawdd i Ddafydd siarad, ac yntau wedi