Tudalen:Y Cychwyn.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gadael yr hen ysgol 'na pan oedd o'n ddim ond deuddeg oed. Daeth golau cyfrwys i lygaid Owen. Efallai efallai ped âi am dro i'r chwarel a dangos i'w dad ei fod yn hwylus efo'i ddwylo, ac yn eiddgar am ddysgu, y medrai ei berswadio i'w dynnu o'r ysgol. Câi ddiwrnod cyfan efo'i dad, ymhell o gyrraedd dylanwad a dadleuon ei fam.

"Dafydd?"

"Ia, Now bach?"

""Faint ydi hi o'r gloch?"

""Wn i ddim yn iawn. Tua hannar awr wedi pump."

"Ydi 'Mam wedi codi?"

"Ydi. Mae hi wrthi'n cynnau'r tân."

"Yr ydw' inna' am godi hefyd."

"Codi? Yr argian, i be', dywad?"

"I ddŵad efo chi i'r chwaral am dro. Gan nad oes 'na ddim ysgol, yntê Dafydd? 'Ydi 'Nhad yn saethu hiddiw?"

"Ydi, yr ydw i'n meddwl. Ond 'fedri di ddim dŵad hiddiw, Now bach. 'Chlywis i mo 'Mam yn deud dy fod di i fynd tros dy addroddiada' efo Taid bora 'ma?"

"Do, ond twt, mi wnaiff heno'r tro. Mi fedar Enid alw yno i ofyn iddo fo newid yr amsar."

Yr oedd Owen ar ei draed erbyn hyn ac yn gwisgo amdano ar frys gwyllt.

"Brensiach annwl, i b'le'r wyt ti'n mynd?" oedd cyfarchiad ei fam pan gyrhaeddodd ef y gegin.

"I'r chwaral am dro, 'Mam. Mae 'Nhad yn saethu hiddiw."

"A thitha' i fynd at Taid i redag dros dy adroddiada'?

Ac wedi addo picio i'r Hafod pnawn 'ma i nôl llaeth imi?"

"Mi geiff Enid alw yn nhŷ Taid, ac mi a' i i nôl llaeth heno ar ôl dŵad adra'."

"'Rydw' i isio'r llaeth pnawn i wneud tatws-llaeth i'r swpar- chwaral. Hwda, bwyta'r uwd 'ma, a mi gei fynd cyn bellad â gwaelod Lôn Serth efo nhw."