Tudalen:Y Cychwyn.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Daeth Robert Ellis i mewn, ac yr oedd Owen yn falch o weld ei fod mewn tymer dda.

"Wel, Owen Ellis, 'machgan i," meddai, gan ddynwared llais main hen flaenor o'r enw Ifan Ifans, "a b'le ma' chi'n meddwl bod chi'n mynd hiddiw os ma' chi'n gwbod?"

""Ydach chi'n saethu hiddiw, 'Nhad?"

"Ydw', am naw os medra' i.

Pam, Now bach?"

""Ga' i ddŵad i'r chwaral efo chi, imi gael eich gweld chi'n saethu ?"

"Cei, debyg iawn, 'r hen ddyn. Hynny ydi.. Sylweddolodd iddo siarad heb ymgynghori â'i wraig.

"Mae o i fynd dros i adroddiada' efo Taid am un ar ddeg," ebe hithau, "ac i nôl llaeth pnawn 'ma."

"Mi fydda' i'n ôl cyn un ar ddeg, 'Mam, os ydi 'Nhad yn saethu am naw."

"O, o'r gora".

"Mi ofala' i y daw o adra' ar ôl imi saethu, Emily," meddai'r tad. "A mi gei weld dy dad i fyny yn y rhaff, Now bach. Y twll yn un go uchal ar y graig, wsti."

"Dew !" meddai Owen, a'i lygaid yn disgleirio. Gan edmygedd, debygai'r lleill, ond rhan bwysig o'r cynllun dirgel ym meddwl y bachgen oedd ffalsio i'w dad. Ac yr oedd y ffordd honno'n un rwydd a sicr i galon Robert Ellis.


Gan fod y tad a Dafydd yn gweithio'n o uchel yn y chwarel, ychydig o ddynion a oedd ar hyd y ffordd yn nhawelwch y bore cynnar. Ond ymunodd tri arall â hwy yng nghanol y pentref, a melys i Owen oedd clywed tramp y traed yn eco caled, brau, hyd furiau a thoau'r tai. Dim ond o ran eu gweld yr adwaenai ef ddau o'r tri dyn—i gapel arall yr aent hwy—a rhoddai'r dieithrwch hwnnw fwy o flas fyth ar yr antur. Y trydydd cydymaith oedd Elias Thomas, ei athro yn yr Ysgol Sul, dyn