Tudalen:Y Cychwyn.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mwyn, breuddwydiol, tawel ac araf ei leferydd, a'i frest wan yn gwneud iddo anadlu'n drwm.

"Mae gynnoch chi jermon newydd hiddiw, Robat Ellis," meddai un ohonynt, gŵr bychan, eiddgar, a lusgai'i draed yn flêr wrth geisio canlyn y lleill. Yr oedd Owen o'i ben a'i ysgwyddau'n dalach nag ef, ac ymsythodd i'w wneud ei hun yn dalach fyth.

"Na, dim ond am 'chydig bora 'ma, Huw Jones," meddai'r tad. "Yr ysgol wedi torri. 'Dydi o ddim yn ddeuddag eto." "Tewch, da chi! Hogyn mawr o'i oed. Tynnu ar ôl 'i dad, yntê?" Edrychai'r dyn bach heibio i Owen i fyny i wyneb ei dad, gan lusgo'i glocsiau'n waeth fyth, nes peri i'r bachgen ofni iddo ef a'i "biser chwarel" fynd ar eu hyd i'r lôn. Sylwodd fod cryn berth o flew yn tyfu o'i glust. Dew, dynion rhyfedd a oedd yn y chwarel, yntê?

"Be' 'newch chi efo fo, Robat Ellis? Clarc o ryw fath, efalla"."

Yr ail ddyn, ar ôl clirio'i wddf yn bwysig, a ofynnai'r cwestiwn, gan swnio fel petai'n rhoi cyngor yn hytrach na disgwyl ateb.

"Mae'r hogyn acw," chwanegodd, "wedi cael addewid am le reit dda. Efo Roberts y Twrna' yn y dre. Ond mae gan Cecil flwyddyn arall yn yr ysgol cyn hynny. 'Roedd Roberts yn deud wrth y wraig acw fod un o'r hogia' oedd gynno fo yn fannister tua Lerpwl erbyn hyn."

Cecil! Ia, tad "Cecil Mami" oedd y dyn, meddai Owen wrtho'i hun, a gwelai wedyn y tebygrwydd rhyngddo a'i fab. Yr oedd iddo wyneb fflat, llywaeth, a llygaid mawr yn ymwthio o'i ben. Edrychodd ar Owen cyn clirio'i wddf eto a chwanegu, "Synnwn i ddim na wnâi hwn glarc reit dda hefyd. Ne' mewn siop."

"Na, mae o'n sâl isio mynd i'r chwaral," ebe Robert Ellis, braidd yn swta.

"Fedrwch chi ddim deud, na fedrwch?" meddai'r dyn bach, gan boeri i'r ffordd yn ei ddoethineb. "Ond mae 'na lefydd