Tudalen:Y Cychwyn.djvu/161

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Wel . . . ym . . . na . . . Taid yn . . . yn . . . pregethu . . . " Ond yr oedd y Doctor hanner y ffordd i fyny'r grisiau cyn i Owen ddod o hyd i eiriau.

"Hm . . . m," meddai wrth deimlo pyls yr hen ŵr. "Ron i'n ofni 'i fod o'n cael ffitia': maen' nhw'n digwydd yn yr afiechyd sy arno fo. Ond 'sterics ydi hyn, 'sterics, strancia' a dim arall . . . Dangos dy dafod. Hm . . . m, un go fawr ydi hi, yntê? Rho hwn yn dy geg." A gwthiodd thermometer i enau'r claf. Gwelai Owen y gwrthryfel yn dân yn llygaid ei daid, ond â'r rhimyn gwydr dan ei dafod, ni allai Owen Gruffydd ond tewi.

"Os bydd o'n gweiddi eto, rho glustan iddo fo. Clustan iawn, wsti. Yr unig ffordd pan maen' nhw'n cael 'sterics."

Yna cymerodd y thermometer a brysiodd o'r llofft cyn i'r claf fedru yngan gair. Wedi iddynt gyrraedd y drws ffrynt, rhoes y Doctor bwniad chwareus yn ystlys Owen, ac yna i ffwrdd ag ef yn fân ac yn fuan i'r nos.

Cafodd Owen Gruffydd godi i'r llofft am dipyn bob dydd yr wythnos wedyn, a chyn diwedd y mis yr oedd yn ei gadair-siglo wrth dân y gegin bob prynhawn a phob hwyr. Yng nghysur a chwmnïaeth Tyddyn Cerrig, diolchai'r hen ŵr iddo adael Tŷ Pella' pan wnaethai, ac er bod ei ynni chwyrn yn dychwelyd ac yntau'n dyheu am gael ailddechrau pregethu, llithrai'r dyddiau heibio'n gyflym wrth iddo loffa yn ei lyfrau am eglurhad ar rai o'r cwestiynau a godai ym meddwl Owen. Yr Ysbryd Glân oedd y Pwnc yn yr arholiad, a newidiai'r cyfarchiad "Sôn yr oeddan ni neithiwr, yntê?" i "Mae John Owen yn 'i lyfr ar yr Ysbryd Glân yn bendant o'r farn . . . " neu "Yn ôl Hodge yn y 'Bannau', yr on i yn llygad fy lle neithiwr." Bron bob nos defnyddiai Emily Ellis y frawddeg, "Rhoswch i'r hogyn gael tamad, wir, 'Nhad."

Un gyda'r nos, pan gyrhaeddodd Dafydd ac Owen adref o'r chwarel, gwelent fod pryder ar wynebau'u mam a'u taid.