Tudalen:Y Cychwyn.djvu/167

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Erbyn canol dydd yr oedd y twll dros chwe throedfedd o ddyfnder, a throes y tri tua'r caban-bwyta gan deimlo'n bur fodlon ar eu llafur.

"Rhyw ddwy droedfadd eto, Lias Tomos," ebe Huw Jones. "Ne' dair, Huw. Mae'r graig yn dipyn meddalach 'rŵan, ond ydi?"

"Ydi. O, mi saethwn ni am dri wedi'r cwbwl. Gwnawn. O, gwnawn." A sgwariodd y dyn bach wrth nesu at y caban. Yno yr oedd y rhan fwyaf o ddynion y gwaliau yn ymwthio at y tân i gynhesu, ac wrth weld eu hwynebau llwydlas. diolchai'r tri thyllwr mai i ymlafnio ar y graig yr aethent hwy. Ni synnent glywed i Ifan Ifans a dau arall o'r gweithwyr hynaf droi adref yng nghanol y bore.

"Nefoedd, mewn pwll glo y liciwn i weithio, hogia'," meddai Robin Ifans, gan dynnu'i glocsiau i dwymo'i draed. "Mae 'na bwll dyfnach na phwll glo yn d'aros di, Robin," oedd barn Huw Jones mewn fflach sydyn, annisgwyl. Ond ni chwarddodd neb, dim ond syllu'n geg-agored arno: prin y credent mai o'i enau ef y daethai'r geiriau.

"Rhaid imi roi hyn'na i lawr yn fy llyfr," ebe Robin ym mhen ennyd. "Mae gin' i lyfr ar gyfar dywediada' mawr y chwaral, a 'does 'na affliw o ddim gan Huw Jones ynddo fo." Saethwyd am dri o'r gloch, a phan ddychwelodd y tri o'r caban-ymochel, yr oedd cynhaeaf da o blygion ar lawr y fargen. "Rhaid inni gael slediad o gerrig i'r wal cyn mynd adra"," meddai Elias Thomas, gan ddechrau cafnu'r plyg uchaf i'w dorri'n bileri hwylus ar gyfer y wagen. Nid oedd hynny'n hawdd, a'r rhew wedi sychu a chrebachu'r graig, ond yr oedd yr hen flaenor yn chwarelwr medrus, ac ymhell cyn caniad, gwthiai Owen a Huw Jones yslediad trwm o glytiau o'r Twll i'w trin drannoeth yn y wal.

Ar y ffordd tuag adref, sylwodd Owen mai araf oedd camau Elias Thomas, fel petai'r hen wr wedi ymlâdd yn llwyr. Ond er hynny, yr oedd ar ei liniau yn y Sêt Fawr y noson honno, a'i