Tudalen:Y Cychwyn.djvu/168

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lais mwyn, tawel, yn diolch i Dduw am Ei ofal tyner a thadol dros blant dynion ym mhob man. Pan ddaethant allan o'r Cyfarfod Gweddi, yr oedd cawod drom o eira'n chwyrlio ar flaen y gwynt.

Syrthiodd yr eira drwy'r nos, ac araf fu'r daith drwy'r pentref ac i fyny'r Lôn Serth y bore wedyn. Codasai'r rhewynt eto, ac yr oedd wyneb yr eira'n crensian dan draed.

"Gobeithio bod yr hen Lias wedi aros gartra' hiddiw," meddai Owen wrth Huw Jones a Dafydd pan orffwysent ennyd yng nghysgod craig fechan hanner y ffordd i fyny'r llwybr.

"Dim peryg'!" ebe Huw Jones. "Mi ddôi'r hen frawd ar 'i ddwy ffon petai raid. Dacw fo ar y gwaelod."

Yn y bonc, a'r eira i fyny tros olwynion y gwagenni, gwyddent ar unwaith mai yn eu gwaliau y byddent y diwrnod hwnnw. Hyd yn oed pe treulient oriau—heb ddimai goch yn dâl am eu llafur—i rawio'r eira oddi ar lawr eu bargeinion, ni fyddent fymryn callach, a'r rheiliau o'r Twll i'r bonc wedi'u cuddio'n lân.

Chwibanai'r rhewynt drwy'r bonc, gan gipio nodwyddau'r lluwch rhewedig oddi ar lawr a mur a tho a'u hyrddio'n ffyrnig i'w hwynebau. Yr oeddynt yn falch o gyrraedd gwal Dafydd a George Hobley a throi iddi am loches.

"Hen fabi, yntê, Now?" meddai George Hobley, gan nodio at Huw Jones.

"Pam, George?"

"Yn crio fel'na. Isio'i fam, wsti." Ond yr oedd y dagrau'n llawn gwaeth ar ei ruddiau yntau.

"Dim ond y clytia' yma sy gynnoch chi, Dafydd?" gofynnodd. Owen i'w frawd, gan edrych ar y cerrig yn y wal.

"Ia, fachgan. 'Roedd George a finna' am saethu bora 'ma."

"Damia," meddai George Hobley, gan ei anghofio 'i hun am ennyd yng ngŵydd y "prygethwr". "Mi gawn ni fynd adra'n