Tudalen:Y Cychwyn.djvu/169

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gynnar, was. Ac mae Fflorri'r Crown yn un dda drybeilig am danllwyth."

"Cawn, mi gawn fynd adra'n gynnar," ebe Dafydd, braidd yn sur. "A phumpunt yn ein pocad am fynd." "O, yr hen gownt, y llechan tan ddiwadd y mis," atebodd George, gan gofio am y llechen a hongiai tu ôl i far y Crown. "Mi fydd hi'n o dena' arno' ni ddiwadd y mis hefyd os pery'r eira 'ma," meddai Dafydd yn llwm. "Ac mae arna' i ofn . . . " "Tyt. Sut yr oedd yr adnod honno'n mynd ers talwm, Now? 'Digon i'r diwrnod 'i ddrwg 'i hun,' yntê? Ac os ydi'r Beibil yn deud hynny . . . "

"Tyd, Owen, tyd," meddai Huw Jones, gan gychwyn ymaith.

Cyrhaeddodd Elias Thomas cyn hir, ac wedi iddynt guro'u breichiau am eu cyrff i gynhesu, dechreuodd y tri chwarelwr ar eu gwaith. A hwythau ar eu heistedd, heb symud fawr, ac wyneb eang y wal yn agored i'r tywydd, yr oedd eu traed bron â fferru cyn pen hanner awr. Gwelai Owen y cŷn yn llithro weithiau o law Elias Thomas, a'r hen flaenor yn ailgydio ynddo mor ddisylw ag y gallai, heb ddywedyd gair. Ond Huw Jones oedd y cyntaf i godi.

"Yr argian, mae hi'n annioddefol hiddiw, ond ydi?" meddai, gan wasgu'i ddwylo dan ei geseiliau a dawnsio o gwmpas congl y wal. "Y diwrnod oera' ers oesoedd. Ne' ydw' i'n gofio, beth bynnag. 'Dydach chi ddim bron â rhewi, deudwch, Lias Thomas?"

"Ydw', wir, fachgan. Ac mae'r clytia' 'ma'n anodd 'u trin, yn rhyw fan blicio fel ar dywydd poeth."

"Wedi'u sychu gan y rhew, wchi."

"Ia, ac yn 'cau'n glir â hollti'n deg. Dyna ti'r clwt dwytha' 'na holltis i. Mi ddylai hwn'na ildio pum crawan, chwech efalla', i'r fodfadd. Ond dim ond tair ges i bob tro, ac mi fùm i'n ffodus i gael cymaint â hynny o'i groen o. Mae'r cerrig gora' yn sâl hiddiw, ac am y rhai gwael, mae'r rheini'n . . . "