Tudalen:Y Cychwyn.djvu/171

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Wel, am . . . am 'u bod nhw'n hen."

"Am ddim?"

"Ia, at 'u cynnal."

"Chweugian yr wsnos am ddim?"

"Ia."

Bu orig o ddistawrwydd syn, a'r dyn bach yn amheus iawn ei feddwl ac yn craffu ar wyneb Owen rhag ofn bod pefriad yn ei lygaid.

"I hen hen hen withiwrs, efalla'," meddai ymhen ennyd. "Tros 'u pedwar ugian, wsti."

"Naci, tros bump a thrigian oedd o'n awgrymu, yn ôl Taid."

"Mae'r hen ŵr, dy daid, wedi bod yn tynnu dy goes di, fachgan," meddai Huw Jones, gan chwerthin yn ei ddwrn. "Un ar y naw ydi Owen Gruffydd . . . Brenin mawr, mae'r rhew 'ma'n gafal ym mhob asgwrn mewn dyn, ond ydi?"

Yr oedd wyneb yr hen Elias Thomas yn welwlas pan ddychwelodd yn nannedd y rhewynt a'r lluwch i gysgod oer y wal. Ond cydiodd ar unwaith yn ei forthwyl a'i gŷn ac aeth ati i hollti. Gwisgai ddarn o ledr, rhan o hen esgid wedi'i thorri ar ffurf maneg a thyllau ynddi ar gyfer y bys cyntaf a'r bys bach, ar gledr ei law chwith.

"Mi ges fenthyg hon gan Benja Williams," meddai. "Mae o'n mynd adra'. Dim cerrig."

""Oes 'na rywun wedi mentro cyn bellad â'r Twll, Lias Tomos?" gofynnodd Huw Jones iddo.

"Oes, Benja Williams yn un. Y rhew yn loyw ar wynab y graig, medda' fo, a phibella' hirion, trwchus, yn hongian o'r top. Y lluwch yn doman yn erbyn bargeinion y pen yma, a'n un ni yn 'u plith nhw."

Araf y treiglai'r amser heibio yn yr oerni: araf hefyd ac ysbeidiol oedd y gwaith a wnâi'r dwylo anystwyth. Teimlai Owen cyn hir fod blaenau bysedd a bawd ei law chwith, a ddaliai'r grawen ar y drafael, yn gig noeth i gyd, ac yr oedd yn