Tudalen:Y Cychwyn.djvu/175

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ac yntau'n mynd allan yn anfynych iawn ac yn methu â theithio ymaith i bregethu, gwnâi Owen tuag wyth awr o waith bron bob dydd, a chyn pen tair wythnos yr oedd yr Actau a llyfr John Owen ar yr Ysbryd Glân ar flaenau'i fysedd. Ond â phryder yn caylu'i feddwl y gweithiai, a chodai'i ben o'i lyfrau'n aml i edrych yn llwm tua'r chwarel. Teimlai'n ddig wrth ei daid, ar y dyddiau pan godai ef, am hel straeon am dywydd caletach filwaith pan oedd o'n hogyn, wrth Fyrddin am weiddi cymaint wrth sôn am y sglefrio ar Afon Feurig, wrth Ddafydd am gymryd arno bod mor ddifater, a hyd yn oed wrth ei fam am bryderu byth a hefyd am fwyd a thân a beth fyddai'r rhent ac ym mh'le'r oedd Enid a myrdd o bethau eraill. Yr oedd y segurdod anorfod—heb bregethu, heb wasanaeth yn y capel ond ar y Sul, heb weld Mary—yn dweud arno, a dyheai'i ddwylo am gydio eto mewn crawen a chyllell—naddu. Nid oedd y diwrnod cyfan, di-fwlch, mor felys fel ffaith ag ydoedd mewn dychymyg.

Dim ond ef a'i fam a oedd yn y gegin un nos Sadwrn, hi'n gweu crafat ac yntau'n darllen yn anniddig.

"I bwy mae'r crafat 'na, 'Mam?"

"I ti. Y gwlân llwyd hwnnw yrrodd Elin imi. Ond 'chei di mo'i wisgo fo tan yr hydref. Na'r 'sana' orffennis i nos Iau."

"Tan yr hydref?"

"I fynd i'r Bala, debyg iawn. Rhaid inni ddechra' hel petha' at 'i gilydd, on' rhaid?"

"Pwy sy'n deud fy mod i'n mynd i'r Bala yn yr hydref?"

"Be' wyt ti'n feddwl ?"

"Dafydd, mae'n debyg?"

"Wel, yr ydan ni i gyd..."

"Yn gwneud camgymeriad 'ta'."

Cododd a chymryd ei gôt fawr oddi ar fachyn tu ôl i'r drws.

"I b'le'r wyt ti'n mynd?"

"I 'Fryn Myfyr', i gael gair efo Mr. Morris y gweinidog. Mae arna' i isio benthyg rhai llyfra' gynno fo."