Tudalen:Y Cychwyn.djvu/174

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Mae o i'w weld yn drwblus iawn 'i feddwl. Yr arian 'na ddygodd Enid—os daru hi, hefyd—afiechyd dy daid, talu rhent o'n blaen ni, a 'rŵan, dim gwaith—mi eiff petha'n gyfyng arno' ni fel hyn, mae arna' i ofn. Gobeithio'r annwyl na phery'r tywydd 'ma ddim yn hir, yntê?... Dyna chdi, mi ddaw y tân, ond cofia roi peth arno fo'n o fuan. Rhaid imi fynd i godi Myrddin; 'rydw' i wedi'i alw fo ers meitin, y cena' bach."

Gan gofio mor ddrud oedd y glo, gadawodd Owen i'r tân ddiffodd, a chyn hir cludodd ei lyfrau'n ôl i'r gegin.

"Fedra' i ddim gweithio yn yr hen siambar 'na," meddai wrth ei fam. "Mae'n rhaid imi gael bwrdd i sgwennu." Diwrnod cyfan, di-fwlch, efo'i lyfrau! Aeth y diwrnod yn ddyddiau, yn wythnos, yn bythefnos, yn dair wythnos. Y tywydd oeraf ers pymtheng mlynedd ar hugain, meddai'r Faner, gan adrodd hanesion am bymtheg troedfedd o eira wrth ryw eglwys yng ngogledd Lloegr, am ddynion yn cerdded tros Afon Tafwys ger Pont Llundain, am bentrefi diarffordd yn newynu, am golledion tyddynwyr a bugeiliaid y mynydd-dir. Yn Nhyddyn Cerrig, darfu'r glo yng nghanol yr ail wythnos, a llosgid darnau o goed wedyn—yr ychydig flociau a oedd ar ôl yn y cwt, y ddau blanc y safai'r mangl arnynt, hen gadair ddi-gefn o'r gegin fach, hanner uchaf y pren afalau, y brigau a dorrai Dafydd ac Owen yn fore fore—cyn i Jones y Plisman godi—yng Nghoed-y-Brain, ac ambell focs a ddygai Myrddin o'r siop. Rhaid oedd toddi eira i gael dŵr, a chan na theithiai na brêc na throl o Gaer Heli, aeth y bwyd yn Llan Feurig yn brin hyd yn oed i'r rhai â modd ganddynt. Ond nid oedd modd gan deulu Tyddyn Cerrig, a chynlluniai a dyfeisiai Emily Ellis ar gyfer pryd ar ôl pryd, gan syllu'n ddig ar yr eira tu allan wrth orfod cymysgu tatws wedi'u berwi â'r blawd pan bobai fara, neu roi dim ond esgyrn yn lle cig yn y labscows.