Tudalen:Y Cychwyn.djvu/182

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

2. Give a short account of the Old English dialects. To which of these dialects is Modern English most closely related?

3. What was the influence of Norman French upon the vocabulary and grammar of the English Language?

4. State and explain Grimm's Law.

Troes heibio i'r Greek Unseens a'r Latin Unseens ac i'r cwestiynau ar ramadeg yr ieithoedd hynny, heibio hefyd i gyfrinachau rhyfedd y Mathematics, i gael golwg ar y papur Cymraeg.

1. Translate.

(a) Mae'r eglwysydd yn gollwng defni, a'r distiau yn pydru.

(b) Gwyn eu byd y rhai a ddihunwyd ac a ddihunanwyd.

Agorodd y drws a dychwelodd y gweinidog ato.

"Fedra' i ddim gwneud rhych na rhawn o'r papura' 'ma, Mr. Morris."

"Na fedrwch, mae'n debyg."

Teimlai Owen yn ddig wrtho am swnio mor hollwybodol: pe dôi ef i'r chwarel ryw fore ac eistedd wrth y drafael, 'fyddai dim llawer o siâp arno yntau.

"Na fedrwch, 'rŵan, wrth gwrs. Ond ar ôl . . . ym blwyddyn neu ddwy yn yr Ysgol Ragbaratoawl, 'welech chi monyn' nhw'n . . . y . . . anodd iawn, efalla'."

""Rydw' i wedi penderfynu peidio â mynd yno, Mr. Morris."

"Ond pam? Pam? Mi allaf eich sicrhau chi fod yr Ysgol yn un . . . ym . . . ragorol a'r athrawon yn wŷr o . . . ym . . . brofiad a chymwysterau arbennig. Bu fy nghyfaill y Doctor Michael Roberts mewn ysgol debyg, a mawr oedd y fendith a gafodd o ynddi, fel y clywais i o'n dweud ganwaith. Fe agorodd ei lygaid ar . . . ym . . . feysydd eang, fe agorodd ei lygaid i weled, llygaid oedd . . . ym . . . heb ganfod dim o ogoniant