Tudalen:Y Cychwyn.djvu/183

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iaith a llenyddiaeth a... ym... meddylddrychau'r hen oesoedd. 'Llygaid oeddwn i'r dall, a throed oeddwn i'r cloff," meddai Job, onid e? Dyna oedd yr hen ysgol honno iddo fo, er nad oedd o'n... ym... llawn sylweddoli hynny ar y pryd efalla'..."

Ond prin y gwrandawai Owen ar yr huodledd hwn, a gwelodd Ebenezer Morris hynny. Tawodd gydag "Ia . . . Ia, wir" ffwndrus, a syllodd i'r tân.

"Os na fedra' i basio i'r Coleg heb fynd i'r Ysgol, mi ro' i'r ffidil yn y to. Mi fedra' i bregethu'n achlysurol yr un un fath â Taid."

Beth a oedd tu ol i'r ystyfnigrwydd hwn? gofynnodd y gweinidog i'r tân, gan chwarae'n anniddig â'i farf. Nid oedd teulu Tyddyn Cerrig yn dlawd. Yr oeddynt yn cyfrannu'n dda at yr achos, yn drwsiadus a graenus eu gwisg bob amser, a'r ferch ieuangaf, Enid, yn talu sylw mawr i'w dillad a'i gwallt, er nad oedd hi ond tipyn o forwyn yng Nghaer Heli. Hm, ni welsai mohoni hi yn y capel ers tro byd rhaid iddo gofio holi yn ei chylch. Na, nid oeddynt yn dlawd, a dau fab yn y chwarel a'r bachgen arall yn siop Manchester House. Ac eto... yr oedd hynny'n bosibl, yn bosibl. Fe gâi air ag Elias Thomas ar y pwnc: adwaenai ef y teulu cystal â neb. Hm... anodd gwybod... yr oedd pobol mor falch, mor falch.

"Sôn yr oeddan ni am... ym... Ladin a Groeg, onid e?"

"Ia, ond ar ôl gweld hwn, Mr. Morris. . ." Gwenodd

Owen yn sur ar y ddalen o Roeg yn y llyfryn agored a oedd ar ei lin. "Traed brain a dim arall ydi o i mi."

"Ia... ia, wrth gwrs, a chitha' heb gael... ym... achos na chyfle i ymgodymu â'r hen iaith nac i ddarganfod ... ym... dim o'i gogoniant hi." Cododd a chroesi at ei silffoedd llyfrau. ""Welwch chi'r silff yma ?"

"Gwela'."

"Groeg. Groeg i gyd." A chwifiodd ei law mewn balchder mawr.