Tudalen:Y Cychwyn.djvu/195

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i'n synnu na fasach chi wedi ildio, fel y gwnaeth yr hen Ifan Ifans, cyn hyn, wchi. Ond mae'n rhaid i rywun fyw, ond oes? Ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag."

"Oes, fachgan. 'Dyro inni heddiw ein bara beunyddiol,' meddai'r Gwaredwr, yntê? Neu fel y gwelis i yn rhwla, 'Dyro inni heddiw fara yfory'-mymryn wrth gefn, rhag inni orfod treulio'n dyddia' yn pryderu byth a hefyd am betha' materol, darfodedig, ac anghofio . . ."

"Ia . . . Ia, wir, wchi. Ond be' am y trefniant newydd efo Owen 'ma? Yr ydach chi'n cytuno, ond ydach?"

"Wel, yr wyt ti'n ffeind iawn wrtho fo, Huw. Wyt, wir, fachgan."

"Twt, lol. Nid pawb fedar gael prygethwr yn bartnar, naci?" Ac ysgydwodd y dyn bach law ag Owen i selio'r fargen.

Yr un fyddai'r gwaith a wnâi'r "partner" ag a wnaethai'r "jermon," ond byddai'i gyflog yn awr, oni waethygai'r graig, tua deg swllt ar hugain yr wythnos. Oni waethygai'r graig- ond yr oedd ffordd o drin bargen, a phenderfynodd Owen wylio Elias Thomas yn ofalus bob tro yr aent i'r Twll. Byrbwyll, fe wyddai, oedd Huw Jones fel creigiwr. Ganwaith y clywsai ef yn dweud, "Yn fan'ma, yntê?" cyn dechrau tyllu, a'r hen flaenor yn nodio am ennyd ond â'i lygaid doeth yn chwilio am arwyddion "cefn" neu "droed" neu "grwb" yn y graig. "Ia, am wn i, wir, fachgan . . . Ond aros am funud. 'Fydda' ddim yn well inni danio dipyn yn uwch i fyny, dywad ?-i osgoi'r wnithfaen 'na. Mi fedrwn chwalu hon'na efo jelatîn yn nes ymlaen, on' fedrwn? Be' wyt ti'n feddwl, Huw?" "Wel, erbyn i chi sôn, Lias Tomos . . ." ildiai bob gafael i farn ei graffach.

Cerddodd Owen adref yn dalog yr hwyr hwnnw.

"Raid i 'Mam ddim pryderu am y rhent 'rŵan, Dafydd, faint bynnag fydd o," meddai wedi i Huw Jones ac Elias Thomas