Tudalen:Y Cychwyn.djvu/194

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Diawch, pan eiff o i'r be'-ydach-chi'n-'i-alw-fo fis Medi, mi fydd o'n gwbod mwy na'r Sgŵl 'i hun, 'gewch chi weld, Lias Tomos. Ne' synnwn i ddim, beth bynnag."

""Dydw' i ddim am fynd i'r Bala fis Medi."

"Y?"

"Rydw' i am ddal ymlaen yn y chwaral am ddwy flynadd arall. Ne' dair efalla'."

A chymaint o bobl yn cael mwynhad wrth dynnu'i goes ac yntau wedi hen gynefino â gwenu'n ddoeth arnynt, gwenodd Huw Jones, ond gan wylio Owen rhag ofn ei fod o ddifrif. Gwelodd ei fod.

""Wyt ti'n meddwl hyn'na Owen?"

"Ydw'."

"Mi fyddi di efo ni am ddwy ne' dair blynadd eto?"

"Bydda', os ca' i, Huw Jones."

"Tad annwl, cei. Ond nid fel jermon fesul dydd... Lias Tomos?"

"Ia, Huw?"

"Mae'n ddechra' mis hiddiw, ond ydi?"

"Ydi, fachgan."

"Wel, os ydach chi'n cytuno, yr ydan ni'n dri phartnar of hiddiw ymlaen. Be' ydach chi'n ddeud?"

"Mae'n well i ti benderfynu'r matar yna, Huw."

"Fi? Pam fi?"

""Dydw' i ddim yn meddwl y medra' i ddringo'r Lôn Serth 'na'n hir iawn eto. Yr hen fegin wedi gwisgo, wel'di, ac yn deud, fel Esthar acw ers tro, fod yn bryd imi roi'r gora' i'r chwaral. Mi ddalia' i ymlaen tan ddiwadd yr haf os ca' i fyw, ac wedyn mi gaf fod yn ŵr bonheddig am dipyn."

"Wel, ia, hen laddfa ydi'r llwybyr 'na, mae'n rhaid deud," meddai Huw Jones wedi saib annifyr. "Mi fydd... mi fydd yn gollad ofnadwy inni ar eich ôl chi, Lias Tomos. Yr argian, bydd, yn y wal a'r bonc a'r chwaral i gyd, ond mi ddyla' iechyd ddŵad o flaen pob dim, on' ddyla'? A deud y gwir, mi fûm