"'Ydan ni am fynd i'r Twll hiddiw, Lias Tomos?" gofynnodd Huw Jones cyn hir.
"Na, mae gynno' ni ddigon o glytia' yn y wal, ond oes, Huw?
Mae'r eira'n siŵr o fod yn drwm hyd lawr y fargen o hyd, wel'di.
A rhaid i mi droi adra' ganol dydd."
"Adra'? O ia, pnawn 'ma maen' nhw'n claddu hogyn Harri Hughes, yntê?"
"Ia. Iorwerth druan."
"Paladr o hogyn cry' fel Owen 'ma. Roedd o fel 'tai o'n gwella ddechra'r flwyddyn, ond oedd? Ne' dyna glywis i, beth bynnag."
"Oedd am dipyn bach, a Harri'n credu bod yr hen lysieuwr hwnnw sy'n dwad i farchnad Caer Heli wedi'i ddallt o .Ond ... Mi fûm i ar fy nhraed drwy'r nos efo fo droeon pan on i gartra', a'r un peth oedd ar 'i feddwl o bob tro. 'Mi ddo' i at y gwanwyn 'ma, Lias Tomos,' medda' fo. 'Mi ddechreua' i wella pan glywa' i lais oen bach, wchi.' A'r tro dwytha' y bûm i yno, "Glywsoch chi'r gog eto, Lias Tomos, 'glywsoch chi'r gog?" medda' fo. Mi fu bron imi â deud celwydd, ond yr on i'n ofni, gan mai gwanhau yr oedd o, y basa' fo'n colli ffydd yn 'i freuddwyd am y gwanwyn. 'Naddo, ddim eto, 'machgan i,' meddwn i, 'ond 'synnwn i ddim na fydd hi'n canu 'fory ne' drennydd.'"
"Mae'n anodd dallt petha', ond ydi? Ydi, wir, wchi."
"Ydi weithia', Huw. Ac eto... 'wn i ddim... mae salwch. Iorwerth wedi gwneud dyn o Harri Hughes. Un cas, rheglyd, ofer, oedd Harri druan, ond mi newidiodd yn llwyr pan aeth Iorwerth yn wael, a 'chafodd mab erioed fwy o ofal ar law 'i dad... 'Wn i ddim, 'wn i ddim ... Sut mae'r Groeg a'r Lladin yn dwad ymlaen, Owen?"
"O, yn o lew, wir, Lias Tomos."
"Groeg a Lladin? Yr argian fawr, 'wyt ti'n dysgu'r rheini, Owen?"
"Ydw', Huw Jones, ar gyfar mynd i'r Coleg."