Tudalen:Y Cychwyn.djvu/197

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ar y Sadwrn olaf ym Mai yr oedd arholiad yr Ymgeiswyr am y Weinidogaeth, a rhoes Owen ei lyfrau eraill o'r neilltu am rai wythnosau cyn hynny . . . Ofnai iddo esgeuluso'r maes a thalu gormod o sylw i'r Roeg a'r Lladin, ond pan ddaeth y dydd. ac y rhoddwyd cwestiynau'r bore yn ei law yn festri Jerusalem, Caer Heli, gwyddai nad oedd angen iddo bryderu am y papur cyntaf, beth bynnag. Yr oedd pump o fechgyn eraill yn yr arholiad, ac wrth ochr Owen eisteddai llanc tew, pendrist, a'i gŵyn o lais yn orchestol o bregethwrol; yn wir, credodd Owen ar y cyntaf ei fod yn siarad trwy'i drwyn, ac yr oedd yn ddrwg ganddo trosto, a gyrfa gyhoeddus o'i flaen. Wedi'r deirawr o ysgrifennu, aeth y ddau am damaid o ginio gyda'i gilydd i dŷ- bwyta'r platiad-o-bys-am-rot. Jeremiah Roberts oedd enw'r llanc, a thrigai yn Aber Hen, chwe milltir i ffwrdd. Pan ddeallodd fod ei gydymaith yn ŵyr i Owen Gruffydd, mawr oedd ei barch iddo.

"Ych Taud wnaeth bregethwr ohona' u, wyddoch chu," meddai rhwng dwy lwyaid swnllyd o'r pys.

"O?"

"Gwrando arno fo'n pregethu rau blynyddoedd yn ôl yn Aber Hen acw blannodd y dyhead gyntaf yn fy nghalon u.

Y presenoldab brenhunol, yr huawdledd deufuol, y mô-ôr o lais . . . Esgwrn, rhau da ydu'r pys 'ma, yntê?"

"Ia, wir . . . Mi fydd 'nhaid yn falch iawn o glywad."

Llawciodd Jeremiah ei gyfran o bys am funud neu ddau cyn chwanegu, "Deudwch wrtho fo 'mod u'n cofio'r testun o hyd."

"Mi fydda' i'n siŵr o wneud."

"Y Proffwyd Amos, y chweched bennod, rhan o'r adnod gyntaf."

Swniai fel petai'n cyhoeddi'i destun cyn dechrau pregethu, ac edrychodd Owen o'i gwmpas yn bryderus, rhag ofn bod rhai of Lan Feurig yn yr ystafell. "Mi fydda' i'n siŵr o ddeud wrtho