fo," meddai drachefn, gan obeithio y tawai'r llall. Ond crafai llwy Jeremiah waelod ei blât.
'Gwa-ae y rhai esmwyth arnynt yn Seuon". . . "
"Ia, testun da, testun da iawn," meddai Owen gan frysio i orffen ei blatiad yntau.
"Y ffordd yr oedd o'n deud y gair 'Gwa-ae'. . . "
"Ia, 'roedd gan fy nhaid lais. . . "
"Fel taran, fel y mô-ôr, mô-ôr o lais. 'Gwa-ae?' medda' fo. 'Yn Seu-ôn?" medda' fo. Dyna chi strôc yntê? 'Gwa-ae?" medda' fo. 'Yn Seu-ôn ?' medda' fo. . . "
"Ia. . . Ia." Teimlai Owen fod pob llygad arnynt, a phob clust yn gwrando. "Am hannar awr wedi un pnawn 'ma, yntê?" meddai, mewn ymgais i newid y stori.
"Yn Seu-ôn ?" medda' fo. Gwa-ae yn Seu-ôn?" medda' fo. 'Yr oeddwn u'n meddwl mau saun cân a moluant oedd yn Seu-ôn,' medda' fo, 'yr oeddwn u'n tybuo mau gweddu a mawl oedd u'w clywed yn Seu-ôn," medda' fo, 'yr oeddwn u'n credu mau dunas Dafydd, honno oedd Seu-ôn,' medda' fo, 'yr oeddwn u wedi darllen mau llawenydd yr holl ddaear oedd Seu-ôn,' medda' fo, 'mau mawr oedd yr Arglwydd yn Seu-ôn, ac mau yn Seu-ôn yr oedd 'u drugfa E-ef. Gwa-ae yn Seu-ôn ?" medda' fo."
"Ia. . . Wel." Gwthiodd Owen ei gadair yn ôl, gan feddwl codi.
"Yr oeddwn u wedu clywed,' medda' fo, 'yr oeddwn u wedu clywed llaus y Proffwyd Eseua'n cyhoeddu, Canys y gyfrauth a á allan o Seu-ôn, ac onud ar fynydd Seu-ôn y gwelodd Uoan yr Oen yn sefyll? Gwae-ae yn Seu-ôn ?' medda' fo."
Yn ffodus daeth y ferch a weinyddai arnynt heibio i'r bwrdd, ac amneidiodd Owen arni, i dalu'i ddyled.
"Platuad arall, 'ngharuad ddel u. Yr ydw' u bron â llwgu, calon."
"Golwg hynny arno fo, ond oes?" meddai hithau wrth Owen, wedi trem awgrymog ar ddwy neu dair gên Jeremiah. Yr