Tudalen:Y Cychwyn.djvu/209

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

𝒫𝑒𝓃𝓃𝑜𝒹 8

Y DREFN, yr Iawn, Etholedigaeth, Prynedigaeth, Cadwedigaeth trwy Ras, trwy Ffydd, a geiriau cyffelyb—bron nad aethent yn angof bellach, meddyliodd yr hen weinidog. Llithrasent fel dail yr hydref ar afon y blynyddoedd, i'w cludo ymaith gyda'r llif. Yr hydref . . . yr hydref.

Ai yn hydref crefydd y magwyd ef? A bod yn onest, ychydig a olygai'r ymadroddion hynny iddo, llai fyth i'r mwyafrif a adwaenai yn y capel a'r chwarel. Crinddail oeddynt, ac oddi tanynt yr afon ddiymdrech, ddi—stŵr, yn treiglo'n hamddenol i'r gwyll.

Wedi'r hydref, y gaeaf a'i niwl a'i oerfel a'i foelni a'i ystormydd . . . Yr oedd Siloam yn awr heb weinidog, a dim ond dyrnaid a ddôi yno ar fore Sul a noson waith, ychydig mwy ar nos Sul, pobl mewn oed bron i gyd. Capel hardd . . . capel hardd. Diar, yr oedd o'n cofio amser . . . Ysgydwodd yr hen ŵr ei ben yn llwm.

Diolch na welodd yr hen Elias Thomas mo'r dadfeiliad hwnnw. Ac eto, hyd yn oed yn y dyddiau pell hynny, yr oedd yr ysgrifen ar y mur . . . Oedd, yn nifaterwch Wil Cochyn a llanciau tebyg, yn nhriciau Myrddin i osgoi mynd i'r capel, yn amheuaeth a gwawd ambell un fel Rhiannon Morris. Ia, yn Rhiannon efallai yn fwy na neb . . .

Ymhen tua deng niwrnod ar ôl arholiad yr Ymgeiswyr am y Weinidogaeth, derbyniodd Owen lythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cyfarfod Misol i'w hysbysu iddo fod yn llwyddiannus ac yn