Tudalen:Y Cychwyn.djvu/210

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gofyn iddo pa gwrs pellach y bwriadai ei ddilyn. "Amgauaf gopi o restr Arfon, Llŷn ac Eifionydd fel y cyhoeddir hi yn y rhifyn nesaf o'r 'Goleuad'," meddai'r llythyr. "Gwelwch mai eich enw chwi yw'r ail arni, a phleser digymysg yw eich hysbysu i'r arholwyr roddi canmoliaeth uchel iawn i'ch gwaith yn y ddau bwngc." Sylwodd Owen nad oedd enw Jeremiah Roberts yn y rhestr o gwbl.

Wel, dyna'r arholiad yna drosodd unwaith ac am byth, meddyliodd. Yr oedd y ffordd yn glir o'i flaen yn awr. Galwai i weld Mr. Roberts yr athro, i ofyn am ei gymorth efo rhai o'r testunau, Mathemateg a Saesneg yn arbennig, a daliai i bydru ar y Roeg a'r Lladin bob cyfle a gâi. Rhaid iddo astudio'n galetach nag a wnaethai'n ddiweddar: rhywfodd, ac yntau heb fod yn cyrraedd adref o'r chwarel tan hanner awr wedi pump a'r nosweithiau braf yn ei wahodd wedyn i grwydro efo Mary hyd lethrau'r Fron neu wrth lan yr afon, ychydig iawn o sylw a roesai i'w lyfrau ers dyddiau lawer. Ailgydiai ynddynt heno nesaf.

"Brysia tros dy swper-chwaral iti gael newid a mynd i ddangos y llythyr i Mr. Morris y gweinidog," meddai'i fam. "Ond Taid, nid Mr. Morris, ddaru fy helpu i efo'r arholiad yna, 'Mam."

Pesychodd Owen Gruffydd braidd yn bwysig. "Ia," meddai, "ond mae'n well iti alw ym 'Mryn Myfyr' yr un fath, wel'di. Mi fydd o'n teimlo os bydd rhywun arall yn torri'r newydd iddo to. Mae amball un dipyn yn groen-dena", wsti."

"Ac wedyn mi gei fyd i dŷ Lias Tomos," ebe'i fam. "Mi fydd yr hen ŵr wrth 'i fodd."

Wedi iddo ymolchi a newid, brysiodd Owen i dŷ'r gweinidog. Rhainnon, y ferch, a atebodd y drws, ac arweiniodd ef i'r parlwr. "Mr. Jones, Sardis, newydd alw i weld Daddy," meddai.

"Ond 'fydd o ddim yn hir, mae'n debyg."

"Pryd daethoch chi adra', Rhiannon?"

"Neithiwr."