Daethant i'r Lôn Serth cyn hir ac ymffurfio'n ddau a dau i ddringo tua'r chwarel. Ceisiodd Owen fod yn gydymaith i'w dad, ond methodd, ac fe'i cafodd ei hun yn olaf yng nghwmni Dafydd. Cerddai'i dad ac Elias Thomas ar y blaen, a gwyliodd hwy'n amheus: ai trin ei ddyfodol ef yr oeddynt?
"Y lolyn, yntê, Dafydd?"
"Pwy, Now bach?"
"Y Lias Tomos 'na."
"O, mae'r hen Lias yn meddwl llawar ohonat ti, wsti."
"'Wnaiff o ddim prygethwr ohona' i, myn diain i, mi wn i hynny."
Ni ddywedodd Dafydd ddim. Yr oedd hynny'n hollol fel efô, meddyliodd Owen yn sur, gan feddwl ei feddyliau'i hun yn lle cytuno ag ef.
"Ac mae o'n siŵr o fedru perswadio 'Nhad, 'gei di weld. Pam na roith o lonydd i rywun? 'Dydi o'n ddim o'i fusnas o, 'ydi o?"
"Mae'n hen bryd i Huw Jones gael trowsus newydd," meddai Dafydd, gan wenu tua choesau'r dyn bach. "Mae o'n fwy o glytia' nag o drowsus ers tro byd."
Hy, newid y stori i osgoi ateb y cwestiwn.
Wedi ymdroelli'n wyn a serth am dros hanner milltir, croesai'r llwybr bont fechan haearn ar ysgwydd y mynydd. Uchel
oedd clonc yr esgidiau hoelion-mawr ar y bont, a phan gyrhaeddodd Owen hi, trawodd yntau ei draed yn drwm arni er mwyn
iddynt ddeffro cymaint o sŵn â rhai Dafydd. Tu draw i'r bont
yr oedd darnau o lechi wedi'u chwalu dros y llwybr, ac yna
fforchiai'r Lôn Serth yn sydyn, un fraich yn llithro i'r ddeau dan
goed a'r llall yn dringo hyd ymyl tomen o rwbel.
"Rhaid imi d'adael di 'rŵan, Now bach," meddai Dafydd. "Os na ddoi di efo mi i Bonc Rowlar."