Tudalen:Y Cychwyn.djvu/221

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

meddai. "Yn nhŷ'r Parch. Ebenezer Morris. Yno yr ydw' i'n aros heno . . . Ond ewch chi at y bwrdd. 'Rydach chi isio bwyd, mi wn, ac mae 'ogla' bendigedig ar y lobscows 'na."

"Mae croeso i chi gael platiad efo nhw, Mr. Jones," meddai Emily Ellis.

"Dim, diolch yn fawr, Mrs. Ellis. 'Does dim llawar er pan ges i de efo Mr. a Mrs. Morris a'r ferch." Clywsai Owen lawer amdano yntau o dro i dro ymhlith ei gydweithwyr, yn arbennig y flwyddyn gynt pan bleidleisiwyd ar ei enw fel Ymgeisydd Rhyddfrydol. Clywsai am ei huodledd a'i ynni a'i ddysg, ond cofiai hefyd i'w wrthwynebwyr ei alw'n "anffyddiwr" ac yn "bagan" a phethau tebyg, gan atgofio byd a betws iddo gael ei ddiaelodi o gapel Cymraeg yn Llundain am ei fod, meddent hwy, yn anuniongred fel athro Ysgol Sul, yn beirniadu'r Beibl, yn gwenwyno meddwl yr ifainc. A oedd gwir yn y cyhuddiad, tybed? A oedd ef, fel Rhiannon Morris, yn cael hwyl am ben yr Ysgrythur ac am ben hen grefyddwyr fel Elias Thomas? Na, ni allai dyn â llygaid mor ddidwyll, mor onest, mor eiddgar, fod yn euog o bethau felly. Os ydoedd yn anuniongred . . . ond ni hoffai Owen feddwl am hynny.

"O, ac un o Fôn ydach chi felly ?" ebe Owen Gruffydd, yn ailgydio yn y sgwrs.

"Ia, o Langefni. 'Wyddoch chi am yr ardal?"

"Gwn yn iawn. Mi fùm i'n pregethu yno droeon."

""Fuoch chi'n cerddad hyd ffordd Pen Mynydd o Langefni?"

"Do, 'nen' Tad, lawar gwaith." "'Roeddach chi'n mynd heibio i'r Ceint Bach, lle ganwyd fi. Ond bu 'nhad farw pan oeddwn i'n ddim ond teirblwydd oed, ac fe symudodd fy mam wedyn i fyw yn Llangefni."

"O . . . Ac ymhlith y doethion tua Rhydychan 'na yr ydach chi 'rwan ?"

"Ia, ers rhai blynyddoedd, ac yn Llundain cyn hynny."

"Tewch! 'Fydd dim hiraeth am yr hen wlad arnoch chi weithia', deudwch?"