Tudalen:Y Cychwyn.djvu/220

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond gwr llesg oedd yr hen wrthryfelwr mwyach, a suddodd yn ôl i'w gadair yn flinedig. Ac yno y bu raid iddo aros, yn gwrando o hirbell bob hwyr ar leisiau croch yn cyhoeddi mai William Jones oedd y gora', y gora', y gora', y G-O-O-RA. Sylwai pawb mor anniddig ydoedd, fel ci methedig yn ffroeni'r helfa ac yn gynnwrf i gyd, ond yn rhy wan bellach i ymuno â'r cyrch. Er bod y tywydd yn braf, ni chaniatâi'r meddyg iddo fynd i'r cyfarfodydd a gynhelid yn yr ysgol, neu ar y codiad tir wrth yr eglwys. Byddai'n siŵr o flino ac oeri yno, meddai, ac yr oedd hynny'n berygl bywyd iddo; ond y gwir reswm oedd y gwyddai'r Doctor Williams mai ar y llwyfan yn ymfflamychu y ceid ef ped âi cyn belled. Felly, gorfu i Owen Gruffydd fodloni ar lunio areithiau ysgubol yn y tŷ a'i ddychmygu ei hun yn eu traddodi â holl angerdd a hwyl ei ddyddiau gorau.

Tan y noson honno pan alwodd William Jones, yr Ymgeisydd Rhyddfrydol, yn Nhyddyn Cerrig.

Nos Wener ydoedd, a phan gyrhaeddodd Dafydd ac Owen y pentref o'r chwarel yr hwyr hwnnw, rhuthrodd Myrddin atynt yn gyffrous allan o Manchester House.

"Mae o yn tŷ ni," meddai.

"Pwy?"

"William Jones. I weld Taid."

Ac yno yr oedd, yn y gegin, yn taflu'i ben hardd i fyny wrth chwerthin yn galonnog am ben rhywbeth a ddywedasai Owen Gruffydd wrtho. Dyn gweddol dal, tenau, sydyn, ydoedd, a'i wallt du wedi'i gribo'n ôl yn llyfn a'i farf gringoch wedi'i thorri'n ofalus. Yr oedd, meddyliodd Owen, yn tynnu at ei ddeugain oed, ond gwnâi'r llygaid gleision llawn chwerthin iddo ymddangos lawer yn ieuangach y munud hwnnw. Pan giliodd y chwerthin ohonynt ac y cododd ef i ysgwyd llaw â'r ddau chwarelwr, sylwodd Owen mor dreiddgar oedd y llygaid hynny. "Yr ydw' i wedi clywad llawar amdanoch chi, hogia',"