daclus, galwodd ar "ein Hymgeisydd newydd, William Jones, Oxford," i annerch y dorf.
Mor rhwydd a diymdrech ei eiriau ! meddyliodd Owen: llithrent tros ei wefusau fel dŵr afonig drwy'r gro. Cytunai'r siaradwr â'r Cadeirydd ynglŷn â'r angen am y Mesur Tir: wedi'i fagu mewn ardal fel Llangefni, gwyddai'n dda am yr ansicrwydd a'r blinder a oedd ym meddwl llawer tyddynnwr a wariai'i elw ar wella'i dir. Heddiw, trwy lafur ac aberth, graen ar ffermdy ac anifail a chae a chlawdd: yfory, trwy drachwant neu fympwy'r perchennog, codiad yn y rhent neu orchymyn i ymadael. Yr oedd rhyw fath o sicrwydd yn hanfodol i fywyd, mor hanfodol â sylfaen i adeilad. Sicrwydd daliadaeth mewn tyddyn, sicrwydd cyflog mewn chwarel. Croesawai â'i holl galon y Ddirprwyaeth Dir a apwyntiwyd ddwy flynedd. ynghynt, a phan gyhoeddai'i hadroddiad, fe frwydrai ef, os câi'r cyfle, dros bob gwelliant a ysgafnhâi faich y tyddynnwr ac a ddileai ofn a phryder o'i fywyd. Ymladdai hefyd tros sicrwydd cyflog i'r chwarelwr.
"Y mae'n rhaid i feistr a Llywodraeth a phawb,' 'meddai, "gydnabod gwerth ac urddas y gweithiwr. 'Ddaw hynny ddim ar ddamwain, ohono'i hun, drwy ddisgwyl amdano fel am law neu dywydd braf. Rhaid i'r crefftwr syml a'r llafurwr cyffredin fagu nerth i fedru sefyll yn gadarn dros eu hawliau a'u rhyddid, heb ofni codi'u llais dros yr hyn sy deg a chyfiawn. Nerth? Mewn undeb y mae nerth, meddai'r hen air, onid e? Aeth ugain mlynedd heibio bellach er pan sefydlwyd Undeb y Chwarelwyr, ond er gwaethaf ei hanes clodfawr a'i ymdrechion dros y gwan a'r gorthrymedig, y mae'r rhagfarn yn ei erbyn mor fyw ag erioed.
"'Wn i ddim a glywsoch chi'r stori honno am hen wraig yn ymyl Llangefni 'cw. 'Dda gin' i mo'r Wesleaid 'na," meddai hi wrth hen flaenor pan oeddan' nhw ar 'u ffordd o'r capel un nos Sul. 'Maen' nhw'n credu mewn cwymp oddi wrth ras.'