Tudalen:Y Cychwyn.djvu/225

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

las yn raddol tuag ysgwydd y bryncyn. Cariai llais yn rhyfeddol o rwydd a chlir i fyny'r llethr.

Pan gyrhaeddodd y tri brawd y cyfarfod, yr oedd y Cadeirydd, Ifan Morgan, Llwyn Bedw, wrthi'n dadlau'n chwyrn dros Fesur Tir a roddai i amaethwyr sicrwydd daliadaeth, rhent teg, ac iawn am y gwelliannau a wnaent ar eu ffermydd. Hen ŵr bychan ysgwâr, rhyfelgar, ydoedd, a wisgai glôs pen-glin ac uwchlaw iddo fwnci-siaced drwchus. Yr oedd ei wyneb yn goch a'i lais yn ofnadwy o gras. Gwyddai Owen yn dda pan oedd yn ieuangach am ddychryn y llais hwnnw. "Dowch yma, y diawliaid bach, imi gael eich blingo chi'n fyw," oedd y cyfarchiad a glywai Huw Rôb a Wil Cochyn ac yntau ers talm pan fentrent dros neu drwy glawdd un o gaeau Llwyn Bedw. Ni chofiai i un ohonynt erioed dderbyn y gwahoddiad, er taered ydoedd, a dysgodd cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o blant ei gwrthod mor ddisylw ag yr oedd modd. Bellach, ei fab John a ddaliai Lwyn Bedw, ac fe'i mwynhâi'r hen Ifan ei hun yn bygwth blingo rhai o'i gyd-Gynghorwyr ar bwyllgorau'r Cyngor Sir. Chwifiai'i ddyrnau a bloeddiai yn awr wrth sôn am y Mesur Tir, ac yn reddfol, drwy rym arferiad, troes Owen ei ben ymaith, gan hanner-fwriadu ei gwadnu hi am ei fywyd. Ond yn lle dianc, cydiodd yn gyffrous ym mraich Dafydd. "Yr argian, yli, Dafydd, yli!"

Yn araf, ar bwys ei ffon, dringai Owen Gruffydd y ffordd tua'r Boncen.

"Dos i nôl un o'r cadeiria' 'na sy o flaen y llwyfan, Now bach. 'Waeth inni heb â thrio'i droi o'n ôl, wsti." A brysiodd Dafydd i lawr i'r ffordd.

Gan na ddringasai cyn belled ers tro byd, yr oedd yr hen ŵr yn falch o gael eistedd ar y gadair. Sychodd y chwys oddi ar ei dalcen gan anadlu'n gyflym, nodiodd braidd yn ffwndrus ar rai o'r bobl o'i gwmpas, a gwenodd tua'r llwyfan, lle codasai William Jones ei law mewn cyfarchiad. Tynnai Ifan Morgan at ddiwedd ei araith, ond yn y cynnwrf, yn lle ei gorffen yn