Tudalen:Y Cychwyn.djvu/224

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Dew, mi fydd 'na le ar y Boncan heno," meddai.

"Pam?" gofynnodd ei daid.

"Pam! Maen' nhw'n cael cwrw'n rhad ac am ddim yn y Crown."

"Pwy?"

"Rhywun sy 'i isio fo. Ac wedyn maen' nhw'n mynd i'r cwarfod i godi twrw. Y Toris wedi gyrru dau faril i'r Crown pnawn 'ma, dyna glywis i."

Cododd Owen Gruffydd o'i gadair ac aeth at y ffenestr i rythu'n chwyrn tua'r pentref.

"Yn union fel nhw," meddai. "Tawn i ugain mlynadd yn 'fengach, mi faswn yn mynd i'r hen dafarn 'na ac yn 'u chwipio nhw allan fel y gyrrodd y Gwaredwr y cyfnewidwyr o'r Deml."

"Peidiwch chi â chynhyrfu, 'rŵan, 'Nhad," ebe'i ferch wrtho. "Dowch i'ch cadair. A chyda llaw, mae'n amsar i chi gael eich ffisig."

"Ffisig! 'Dydw' i ddim isio ffisig y Tori bach. A chan feddwl, lliw y Toris sy arno fo. Teflwch o i'r cŵn."

"Rwan, Taid," ebe Owen. "Mae o'n gwneud lles i chi, mae'n rhaid i chi gyfadda'."

Dychwelodd yr hen ŵr gan rwgnach i'w gongl, yfodd y ffisig, ac yna suddodd yn ôl i'w gadair i gysgu tipyn. Cyn hir, aeth ei dri ŵyr ymaith yn dawel tua'r cyfarfod, a chludodd ei ferch y llestri i'r gegin fach i'w golchi. Agorodd y 'cysgwr' ei lygaid, cododd, cydiodd yn ei het a'i ffon, a sleifiodd ar flaenau'i draed o'r tŷ.

Gwnâi'r Boncen, codiad tir ychydig islaw'r eglwys, le gwych i gynnal cyfarfodydd yn yr awyr agored. Ar ei gwaelod yr oedd llwyfan wastad o graig, o flaen honno ris llydan lle gosodid cadeiriau i'r hen a'r methedig, ac yna dringai'r llechwedd