Dechreuodd Robin feichio crio, ac yna o'r tu ôl iddo, o enau Wil Cochyn, daeth cri plentyn yn torri'i galon yn lân. Ceisiodd eraill yn y fintai greu nadau tebyg, ac ni châi bygythiadau cras Ifan Morgan un dylanwad arnynt, er iddo cyn y diwedd anghofio mai ar lwyfan yr oedd ac addo blingo'r diawliaid yn fyw.
"Gadewch iddo ofyn 'i gwestiwn," sibrydodd William Jones wrtho.
"O'r gora'," bloeddiodd y Cadeirydd. "Un cwestiwn. A dim ond un."
Tawelodd y cynnwrf, a phesychodd Robin yn bwysig.
"Mae arna' i ishio gwbod," meddai, "pa un ydi'r enwad pwyshica'—y Weshleaid, yr Annibynwyr, y Batush, y Methodishtiaid, ne'r Milishia."
Chwarddodd ei gymdeithion yn groch gan bwnio'i gilydd yn eu hafiaith, a daliasant i ruo chwerthin tra galwai'r Cadeirydd yn ofer am osteg. Yr oedd yn amlwg nad oedd y cwestiwn a'r chwerthin ond ystrywiau i wastraffu amser.
Tynnodd Owen Gruffydd ei het a rhoes hi i Fyrddin i'w dal, cododd o'i gadair a cherddodd yn araf i'r llwyfan. Sibrydodd rywbeth wrth Ifan Morgan, nodiodd hwnnw, ac yna troes i wynebu'r dorf. Yn urddasol o lonydd a syth, a'i law i fyny a'i doreth o wallt arian yn chwarae yn yr awel, edrychai fel un o broffwydi Israel gynt. Ond yn lle dicter yr oedd gwên yn ei lygaid.
"Pwy ddaru ofyn y cwestiwn yna?" gofynnodd yn y distawrwydd anniddig.
"Fi," atebodd Robin Ifans yn sur.
"Aros di, nid mab Ishmael Ifans wyt ti, dywad?"
"Ia."
"O... Wel, yr hyn sy'n fy nharo i ydi bod y gofyniad yn un anghyflawn. Mae o'n sôn am y Wesleaid a'r Annibynwyr a'r Bedyddwyr a'r Hen Gorff, ond yn gadael un enwad allan.
'Rhoswch chi, pa enwad oedd Ishmael Ifans yn perthyn iddo— heblaw'r 'Crown'?"