"Hylô, pwy ydi'r gŵr bonheddig yma, Bob?" gofynnodd George Hobley pan ymunodd â hwy. "Hwn ydi Now?"
"Ia, fachgan. 'Roedd yn rhaid iddo fo gael dwad i'n gweld ni'n saethu bora 'ma."
"O? Diwrnod bach yn y chwaral? Tipyn gwell na'r hen ysgol 'na, yntê, Now?"
Ia," meddai Owen gan roi tro ar ei ben a gwenu'n hynod gyfeillgar ar bartner ei dad: hwn oedd y gŵr callaf a welsai y bore hwnnw, y callaf o ddigon.
Dyn tenau, llon, ydoedd, yn hanner-chwerthin wrth lefaru ac yn gweiddi fel petai'r un y siaradai ag ef yn bur fyddar. Yr oedd tua phump a deugain, ond gwnâi ei wallt golau a'i lygaid gleision, direidus, iddo ymddangos lawer yn ieuangach. Cofiodd Owen iddo ddigwydd clywed ei fam yn sôn am "Y George Hobley 'na" droeon wrth ei dad, a'i thôn yn awgrymu nad oedd y gŵr hwnnw'n un i'w edmygu na'i efelychu. A chofiodd hefyd am y noson honno y gwelodd ef yn honcian allan o'r Crown ac y cafodd ei rybuddio gan ei dad i beidio â sôn gair am y peth wrth ei fam.
"Na, 'dydi o ddim am aros drwy'r dydd, George," ebe Robert Ellis. "Mae'n rhaid iddo fo fynd adra'n syth ar ôl inni saethu. 'I fam o isio iddo fo redag tros 'i adroddiada' efo'i daid rhag ofn iddo fo'u hanghofio nhw, a'r gwylia' hir o'i flaen o."
"Wel, ia, hwn ydi'r adroddwr, ynte?"
"Y gora' yn y capal acw," meddai Elias Thomas â balchder mawr. "A chystal â neb yn yr ardal i gyd, o ran hynny."
Cerddent dros wastad o lechi yn awr, a chyn hir fesul un hyd ystlys tomen fawr, wasgarog. Safodd y cwmni ar ei hysgwydd ac yr oedd Elias Thomas, yn amlwg, yn falch o'r seibiant ac o gyfle i gael ei wynt ato.
"Dyma iti'r olygfa ora' yn Sir Gaernarfon, am wn i, Owen," meddai ymhen ennyd. "Yr hen Wyddfa a'r clogwyni o'i chwmpas hi; un, dau, tri llyn yn 'sgleinio fel gwydra' yn yr haul; hannar dwsin o nentydd yn hongian yn wyn ar y llethra'