Pan oedd y rhai olaf o'r dorf yn gwasgaru wedi'r cyfarfod, amneidiodd William Jones ar Owen.
"I b'le mae'r ffordd 'na'n mynd?" gofynnodd.
"Heibio i'r Eglwys, wedyn i fyny at yr Hafod ac i'r mynydd."
"O. 'Rydw' i am fynd am dro bach cyn swpar. 'Ddowch chi efo mi?"
"A phlesar, Mr. Jones. Hynny ydi, os ydi Dafydd fy mrawd . . . "
"Yn gofalu am eich Taid? Ydi."
Wedi i'r Ymgeisydd ysgwyd llaw ag amryw a diolch eilwaith i Owen Gruffydd am ei ymyriad, cychwynnodd y ddau. Am y cyfarfod yr oedd y sgwrs, a chwarddent yn aml wrth feddwl am yr hynafgwr bychan yn erlid y cewri tua'r pentref. Yna aethant i sôn am Owen M. Edwards a'i lyfrau, ac adroddai William Jones hanesion am Gymdeithas Dafydd ap Gwilym yn Rhydychen ac am rai o'r darlithoedd ysbrydoledig a draddodasai'r gŵr ifanc o Lanuwchllyn ynddi—ar Ddafydd ap Gwilym, ar Geiriog, ac ar ei hoff arwr Owain Glyndŵr. Gwrandawai Owen fel un dan gyfaredd: ni chlywsai ef erioed o'r blaen siarad mor fyw a diddorol. Teimlai fel petai'i gydymaith eiddgar, huawdl, yn agor ffenestri tywyll ei feddwl ac yntau'n syllu ar gyfandiroedd newydd disglair, llawn rhamant. Ond . . . ond tybed a oedd gwir yn y stori ei fod yn . . . yn anffyddiwr?
"'Rydach chi'n darllan llawar, Mr. Jones?"
"Ydw', bob cyfla ga' i. A 'rŵan, yn Rhydychen, yn cael manteision i hynny, wrth gwrs. Pob math o betha"."
"Barddoniaeth?" Enwodd Owen y pwnc hwnnw rhag bod yn rhy anturus.
"Bydda', yn enwedig cerddi Milton a Browning. A Dante." Chwarddodd wrth chwanegu "Ap Dante' ydi fy ffug—enw i yn y Gymdeithas 'na yr on i'n sôn amdani gynna'."
"'Does gynnoch chi ddim amsar i lyfra' crefyddol, mae'n debyg?"