Tudalen:Y Cychwyn.djvu/230

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

aeth Ishmael i'r hen Eglwys 'na, mi gafodd fargan reit dda. Do, 'ffeio fo, a'i wneud yn farciwr cerrig yn fuan wedyn . . . Pwy sy isio gwbod am Ishmael?"

"Eglurwch iddo fo," meddai Owen Gruffydd wrth ddyn a safai tu ôl i gadair yr hen ŵr. "Robert Ifans, 'i nai, deudwch, yn gofyn pa un ai'r Batus ai'r Milisia ydi'r gora'."

"Robat Ifans? Robat Ifans, Bryn Mai? Yn y Milisia ?

He!" A chwarddodd Gruffydd Ifans yn ddireol pan glywodd y newydd. "Mae o bron cyn hynad à finna'!"

"Robert Ifans, eich nai. Mab Ishmael," gwaeddodd y dyn. "Y?" Edrychai'r hen frawd yn ddryslyd. "Robat.. Robat . . . 'Doedd gan Ishmael ddim . . . " Yna daeth goleuni sydyn. "Robin?"

"Ia."

"Be' amdano fo?"

"Isio gwbod pa un ai'r Batus ai'r Milisia ydi'r gora'."

Neidiodd Guto Môn ar ei draed, ac er ei fod dros ei bedwar ugain, llamodd fel gafr i fyny'r llethr, gan chwifio'i ffon a gweiddi: "Dwad yma i godi twrw, y cena' bach. Fo a Wil 'i frawd a hogyn John Hobley. Mi ro' i Filisia iddyn' nhw!

Adra' y munud 'ma, y tacla'!"

A'r peth nesaf a welai'r dorf oedd hanner dwsin o'r meddwon. yn brasgamu i lawr tua'r ffordd o flaen Gruffydd Ifans a'i ffon.

"Rhyw gwestiwn eto?" gofynnodd Owen Gruffydd pan sobrodd y gynulleidfa ddigon i roi sylw i'r llwyfan.

Ond nid oedd un, a chuddiai amryw o'r diotwyr tu ôl i bobl eraill rhag ofn i'r ysmaldod didrugaredd hwn eu cyrraedd hwythau.

"Dowch, hogia', rhag inni wastraffu amsar."

Safodd yn ddisgwylgar am funud, yna eisteddodd yn arafa siomedig, gan nodio at William Jones. Cododd yntau i fynd ymlaen â'i araith.