Tudalen:Y Cychwyn.djvu/233

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ian mewn dychryn, gan feddwl bod y tywyllwch yn llawn bwganod ac ysbrydion a phryfaid mawr, hyll, a bod y walia'n symud yn araf tuag at fy ngwely i. Mi fydda' 'Mam yn brysio i'r llofft â channwyll yn 'i llaw ac yn siarad efo mi. Ond dal i gau fy llygaid yn dynn yr oeddwn i, gan synnu bod 'Mam mor ddewr, yn mentro i ganol y bwganod a'r ysbrydion a'r pryfaid mawr, hyll, ac yn aros mewn ystafell lle'r oedd y walia'n araf araf gau amdani. Mi agorwn fy llygaid o'r diwedd a gweld 'Mam yn sefyll wrth fy ngwely i, a'r ganhwyllbren ddofn, felen, yn 'i llaw a phatryma'r dail a'r bloda' ar bapur y wal tu ôl iddi mor llonydd ag erioed... Bûm dipyn cyn deall mai ofn oedd yn creu'r bwganod."

"Codi bwganod y mae fy meddwl inna' felly, Mr. Jones?"

"Ia. Mi yrra' i ddau lyfr Darwin i chi pan a' i'n ôl i Rydychen."

"Na, mi fedra' i gael 'u benthyg nhw gan rywun yma.

Os ydach chi'n... os ydach chi'n meddwl bod yn ddoeth imi 'u darllan nhw."

"Ydw', petai ddim ond i yrru'r bwganod i ffwrdd. Ond ar wahân i hynny, maen' nhw'n llyfra' pwysig. Pwysig iawn."

"'Ydach chi... 'ydach chi...?"

"Peidiwch ag ofni, Owen. Allan â fo!"

"Wel, ar ôl i chi ddarllan y llyfra' 'na, 'ydach chi'n... dal i gredu yn y Beibl?"

"Yn fwy nag erioed. 'Welodd a 'wêl y byd ddim llyfr tebyg iddo fo."

"Ond... hanas y Creu... a'r Dilyw... a Jona . . . a Thŵr Babel..."

"'Dydw' i ddim yn credu'r rheini'n llythrennol, mae'n wir. A hyd y galla' i weld, ychydig o fudd mae'r bobol sy'n 'u coelio. nhw felly yn 'i gael ohonyn' nhw. 'Dydyn' nhw ddim llawar gwell o feddwl yn llythrennol am yr hen Noa a'i arch a'i anifeiliaid neu am Jona druan ym mol y morfil, 'ydyn nhw? I