Tudalen:Y Cychwyn.djvu/234

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mi, mae'r hanesion yn gryfach, yn fwy godidog, fel damhegion, fel darnau byw o'r dychymyg cyntefig. 'Wn i ddim pwy eodd awduron llyfra' cynnar y Beibil, ond yr oedd amryw ohon yn' nhw'n feirdd gwir fawr . . ."

"Ond . . ."

"Ia?"

"Mae'r Beibl yn ysbrydoledig."

"Ydi. A phopath mawr arall, Owen."

"Ond mae'r Beibil yn wahanol, yn Air Duw."

"Ydi. Yr ydw' inna'n credu hynny, yn enwedig pan fydda' i'n darllan yr Efengyla'. Ond mae rhanna' o'r Beibl sy'n fwy ysbrydoledig na'i gilydd, ond oes?"

"Oes, efalla', ond . . ."

"Ia?" Ni wyddai Owen pa ddadl a oedd i ganlyn yr "ond." Hoffai fedru dweud yn eofn ac yn bendant, fel y gwnâi Ebenezer Morris ac Ifan Ifans a Thaid ac. . . ac Elias Thomas—ond nid oedd yn llawn mor wir amdano ef—fod y Beibl yn wir o glawr i glawr ac mai rhyfyg ofnadwy oedd i neb wadu gair ohono. Ond rhagrith fyddai hynny. Ers tipyn bellach, ac yn arbennig er pan fu'n siarad â Rhiannon Morris, mynnai rhai amheuon grwydro'n llechwraidd i ganol ei feddyliau, ac ambell noson ni adawent iddo gysgu am oriau. Dim ond wrth Dafydd y son— iodd amdanynt, a cheisiodd yntau eu chwerthin ymaith, gan haeru bod pawb yn mynd drwy'r un wasgfa yn yr oed yr oedd. Owen ynddo. Ond pan welodd na thyciai'r ysgafnder ddim, awgrymodd i'w frawd fynd i Gaer Heli am dro un hwyr neu brynhawn Sadwrn a chael sgwrs â'r Parch. Ifan Hughes. Er i'r gweinidog hwnnw gychwyn fel chwarelwr cyffredin, yr oedd iddo enw fel gŵr hynod ddiwylliedig, a bu adeg pan edrychid arno gyda pheth amheuaeth gan un neu ddau o'i flaenoriaid mwyaf uniongred. "Mae Ifan Hughes yn un o'r dynion. mwya' cywir yn y sir 'ma, Now bach," meddai Dafydd, "ac