Tudalen:Y Cychwyn.djvu/235

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn Gristion bob modfadd ohono, heblaw 'i fod o'n feddyliwr cry'." Ond oedi'n betrus a wnaethai Owen, gan lenwi'i nosweithiau a'i Sadyrnau ag astudio anniddig, a chadw'i gyfrinach oddi wrth bawb ond Dafydd. Hwn oedd y tro cyntaf iddo siarad â neb arall am y peth, a chlywai'i galon yn curo'n gyflym o'i fewn. Petai awgrym o'r clyfar neu'r gwawdus yn nhôn ei gydymaith, fe chwiliai Owen yn wyllt am ddadleuon i'w orth- rechu, Ymgeisydd Seneddol neu beidio. Ond nid oedd: llefarai'n bwyllog a dwys a didwyll.

"Gwyddonydd oedd Darwin," aeth ymlaen, "yn chwilio'n ddyfal am wirionedd, ac fel amryw o wyddonwyr o'i flaen, yn gweld nad yn sydyn, chwe mil o flynyddoedd yn ôl, y crewyd y byd a'r bydoedd, ond bod yr oll wedi tyfu'n raddol raddol, drwy filiyna' ar filiyna' o flynyddoedd-oesoedd rif y tywod mân,' chwedl yr emyn-yn ôl deddfau natur. A dyn ac anifail, gwybedyn a llysieuyn, yr un fath, yn ôl 'i nerth a'i fedr i oresgyn rhwystra"."

"Felly 'dydi'r Beibil ddim yn wir o bell ffordd, Mr. Jones?"

"Yn wir? Ydi, yn rhyfeddol o wir. 'Datblygiad' ydi gair mawr y gwyddonydd, ac fel datblygiad y mae o'n gweld hanas y cread a hanas dyn, popeth yn ymgyrraedd at fywyd cryfach a llawnach. Ym myd ysbryd dyn y mae'r ymgyrraedd hwnnw ar 'i ora', ar 'i fan ucha', ac 'wn i ddim am well cronicl, am ragorach datguddiad, ohono fo na'r Beibil. 'Wyddoch chi?

"Na wn... Na wn."

"Na wyddoch. Na neb arall chwaith. 'Does yr un, a 'fydd yr un byth."

Culhâï'r llwybr, gan redeg drwy lwyn o goed cnau ac yna dros bont fechan haearn. Aeth William Jones yn gyntaf, a dilynodd Owen ef gan deimlo'n hapusach nag a wnaethai ers wythnosau. Sylwodd mor bêr oedd sŵn yr afonig o dan y bont, ac fel y diferai'r heulwen oddi ar lwyn o ddrain gerllaw.

"Wel, Owen?"