Tudalen:Y Cychwyn.djvu/236

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Mae'r bwganod yn dechra' mynd, Mr. Jones. Mi a' i i nôl benthyg y llyfra' 'na 'fory nesaf."

"Llythyr iti, Owen. O'r Bala, yr ydw' i'n meddwl." Noson yn niwedd Gorffennaf ydoedd, a'r ddau chwarelwr newydd gyrraedd adref o'u gwaith.

"Ia, o'r Bala, 'Mam," ebe Owen wedi iddo agor y llythyr. Yna ar ôl iddo'i ddarllen ddwywaith, "O?" difater oedd ei unig sylw.

"Paid â swnio mor gyffrous, Now bach," meddai Dafydd.

"'Ydyn' nhw am dy wneud di'n Broffesor yno ne' rwbath?"

Trosglwyddodd Owen y llythyr i'w frawd.

"Yr argian fawr, go dda, 'r hen ddyn!"

"Be' mae o'n ddeud, Dafydd ?" gofynnodd Owen Gruffydd yn ddiamynedd.

"Ia, darllan o inni," ebe'r fam.

"Diawch, mi fedri fynd yno fis Medi wedi'r cwbwl, fachgan!

Mi fydd Lias Tomos wrth 'i fodd. Mae'r hen frawd wedi bod yn poeni dipyn..."

"Darllan y llythyr 'na, da chdi, Dafydd, yn lle stwnsian yn fan'na," oedd gorchymyn chwyrn Owen Gruffydd.

"O'r gora' Taid. Dyma fo:

'Ysgol Ragbaratoawl,
Bala.
25 Gorff. '95.

Anwyl Frawd,

Derbyniasom ers tipyn bellach adroddiad y ddau Arholwr ar eich gwaith yn Arholiad yr Ymgeiswyr am y Weinidogaeth, a balch iawn oeddym o ddarllen eu canmoliaeth uchel i'ch attebion. yn y ddau bwngc. Hyderem y gwelech eich ffordd yn glir i ddechreu ar gwrs yn yr Ysgol Ragbaratoawl y flwyddyn hon, ond ofnem, gan nad oeddym wedi derbyn cais oddi wrthych fod