Tudalen:Y Cychwyn.djvu/237

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhwystrau ar eich llwybr. Heddyw, daeth llythyr oddi wrth gyfaill, sy'n dymuno aros yn ddi-enw, yn cynnyg Ysgoloriaeth o £50 y flwyddyn i chwi am ddwy flynedd yn yr Ysgol hon i baratoi ar gyfer yr arholiad i'r Coleg. Cynhigir yr Ysgoloriaeth i chwi ar sail eich gwaith yn Arholiad yr Ymgeiswyr a'ch addewid fel myfyriwr a phregethwr, a hyderwn yn fawr y derbyniwch hi yn llawen.

Gan edrych ymlaen at eich dyfodiad i'r Bala...'"

"He ! Ac er na ddylwn i ddim sôn am hynny," ebe Owen Gruffydd, "fi ddaru 'i helpu o efo'r arholiad hwnnw."

"'Fedra' i ddim deud mor falch ydw' i," meddai'r fam yn dawel. "Studio tan hannar nos a chodi wedyn ymhell cyn chwech! 'Ddeil neb felly, ac mae'r Doctor wedi sylwi ar yr hen beswch 'na sy gynno fo."

"Pryd?"

"Echnos pan alwodd o i'ch gweld chi, 'Nhad."

"Hy, dychryn pobol ydi gwaith hwnnw. 'Oes gin' ti laeth enwyn yn y tŷ?"

"Oes."

"A mwstard?"

"Oes."

"A siwgwr candi?"

"Oes, yr ydw' i'n meddwl."

"Estyn nhw i'r bwrdd 'ma. Mi setla' i'r peswch 'na iddo fo."

Ond ar Owen yr oedd llygaid y fam.

"'Rwyt ti'n dawal iawn, Owen," meddai.

"'Dydw' i ddim am gymryd cardod gan neb," ebe yntau.

"Y? Cardod?" Cododd Owen Gruffydd yn ei ddicter.

"Nid cardod ydi ysgoloriaeth, Now bach," meddai Dafydd.

"Nid fel rheol. Ond dyna ydi hon. Ac mi geiff y 'cyfaill di-enw' gadw'i bres."