Tudalen:Y Cychwyn.djvu/243

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

'roedd 'na rai ohono' ni—Dafydd dy frawd, Owen Gruffydd dy daid, a finna', dy athraw di yn yr Ysgol Sul, ac eraill yn gweld addewid ynot ti ac yn breuddwydio breuddwydion am dy ddyfodol di. Ond yn lle cael chwanag o ysgol, i'r chwaral y bu raid iti ddŵad, i drio ennill tipyn. 'Roeddan ni'n siomedig, ac yn yn dechra' ama' doethineb Rhagluniaeth yn dy hanas di. Erbyn heddiw fe giliodd yr amheuaeth honno o'm meddwl i. Mae Ysgol profiad yn bwysig, yn bwysig iawn, yn enwedig i bregethwr, ac nid damwain oedd i'r Gwaredwr aros yng ngweithdy'r saer nes bod yn ddeg ar hugain cyn cychwyn ar 'i Weinidogaeth gyhoeddus. Mi gest ymdrechu, mi gest ddisgyblaeth, mi gest gyfla i adnabod dynion, mi gest garedigrwydd o leoedd. annisgwyl weithia', mi gest dyfu'n ddyn yng nghanol gerwinder bywyd. Bu galed y bygylu lawar tro, mi wn, ond efalla' ymhen blynyddoedd y byddi di'n edrach yn ôl ar yr hen chwaral 'ma fel y Coleg gora' gefaist ti erioed.

Cymer y llyfra' 'ma. 'Dydyn' nhw ond arwydd bychan of ddymuniada' gora' dy gyd—weithwyr. Duw a'th fendithio, 'machgan i, Duw a'th fendithio."

Wedi i'r gymeradwyaeth ddistewi ac i Owen ddweud gair of ddiolch, galwodd y Cadeirydd ar Huw Jones i gyflwyno Beibl Hardd i Elias Thomas.

"Gadewch inni 'i weld o, Benja Williams," gwaeddodd Robin Ifans pan ddaeth y dyn bach ymlaen.

Digwyddai bocs mawr pren fod yn ymyl yr ystôf. Gwagiwyd hwnnw o'r coed tân a oedd ynddo, rhoddwyd ef a'i wyneb i waered ar ganol y llawr, a safodd Huw Jones arno. "Mistar Cadeirydd ac annwyl gyd—weithwyr," meddai wedi iddo glirio'i wddf droeon. Yr oedd ei wyneb yn wyn a'r ddalen o bapur yn ei law yn gryndod i gyd. "Roeddan ni'n dri o hogia' gartra' ers talwm, fi a John a Dic, a 'fydda' 'Mam byth yn rhoi presant bach i un ohono' ni heb gofio mewn rhyw ffordd am y ddau arall hefyd. Wel, yr ydan ni'n dri yn y wal 'cw—Lias Tomos, Owen, a finna'. . ."