poced i chwythu'i drwyn a sychu'i lygaid. Ond edrychai Robin. cyn sobred â sant yn gwrando'n ddwys ar ei hoff bregethwr, ac efallai mai "Amen" a "Diolch iddo" a phethau tebyg a ddywedai dan ei anadl. Wedi i Feurigfab honcian ymaith i'r grocbren yn sŵn cymeradwyaeth fyddarol y caban, hysbysodd y Cadeirydd iddynt gyrraedd prif waith y cyfarfod.
"Nid er mwyn hwylustod yn unig," meddai, "yr ydan ni'n cynnal dim ond un cwarfod ac yn penderfynu ffarwelio ag Owen Ellis a Lias Tomos yr un pryd. Rheswm pwysicach ydi 'u bod nhw'n gyfeillion mor fawr, fel mab a thad i'w gilydd bron, ac yr ydw' i'n siŵr fod y ddau yn falch o'r trefniant yma. 'Dydw' i ddim am areithio—mi fydd 'na rai erill yn gwneud hynny. Ond mi liciwn ddeud hyn: dim ond i Now 'ma drio bod yn deilwng o Lias Tomos, mi fydd yn ddyn ac yn brygethwr ac yn wnidog y bydd y chwaral 'ma a'r ardal a Chymru gyfan yn falch ohono."
Cymeradwyaeth swnllyd, a'r dynion yn gwenu'n slei ar ei gilydd, a gawsai Meurigfab, ond yr oedd honno a dorrodd allan yn awr yn sobr a chywir, a phawb yn nodio'n ddwys. Er ei waethaf daeth dagrau i lygaid Elias Thomas, a brathai'i fin yn ei gynnwrf.
"Yr arferiad ydi i aelod hyna'r caban gyflwyno'r anrheg, yntê? Lias Tomos ydi'r hyna', ac er bod hwn yn Gwarfod Ymadawol iddo ynta', mae o wedi cydsynio i gyflwyno'r llyfra' 'ma i Owen Ellis. Cofianna' dau ddyn mawr ydyn' nhw—Thomas Jones o Ddinbych, ac Edward Matthews o Ewenni, a gobeithio y bydd 'u darllan nhw yn ysbrydiaeth i'r prygethwr ifanc, yntê? . Lias Tomos?"
Cododd Elias Thomas oddi ar y fainc wrth y mur a chymerodd y llyfrau o ddwylo'r Cadeirydd. Cododd Owen yntau i'w derbyn.
"Owen, 'machgan i," ebe'r hen flaenor, a'i lais yn floesg, "yr ydw' i'n dy gofio di'n dwad i'r chwaral 'ma am dro efo'th dad dros wyth mlynadd yn ôl. Hyd yn oed yr amsar hwnnw,