Tudalen:Y Cychwyn.djvu/241

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iddo gael cip ar bapurau'r flwyddyn gynt, ni phoenai fawr am hwnnw, a threuliai lawer gyda'r nos yn dringo'r Fron neu'n crwydro hyd lannau'r afon efo Mary.

Yr oedd lle cyffrous yng nghaban Ponc Britannia ar awr—ginio'i ddiwrnod olaf yn y chwarel. Penderfynasai Elias Thomas hefyd ymddeol, ac felly, yn lle cynnal dau Gyfarfod Ymadawol, trefnwyd i ffarwelio â'r hen flaenor ac â'r llanc o bregethwr yr un pryd. Bwytaodd pawb yn frysiog ac yna tynnwyd y byrddau i lawr a'u rhoi o'r neilltu yn erbyn y muriau. Cyn hir dechreuodd dynion o bonciau eraill gyrraedd, yn eu plith Huw Rôb a'i dad a Wil Cochyn o Bonc Rowler, ac erbyn ugain munud wedi deuddeg, amser agor y cyfarfod, yr oedd y caban, er ei fod yn un gweddol fawr, yn orlawn, a thyrrau o wŷr yn sefyll tu allan wrth y drws ac wrth y ffenestri agored.

Fel rheol, Llywydd y caban a gadeiriai mewn cyfarfod o'r fath, ond gan mai Elias Thomas ei hun oedd hwnnw, gwnaed y gwaith gan wr o'r enw Benjamin Williams. Wedi emyn agoriadol, yna'r adroddiad "Arwerthiant y Caethwas" gan Thomas Hugh John Edwards—"Twm Bach" i bawb ond y Cadeirydd, ac edrychai Twm fel petai'n adnabod enw'r adroddiad yn well na'i enw'i hun—a'r unawd "Rocked in the Cradle of the Deep" gan Wil Baswr, a fedrai suddo'n ddyfnach na nodyn dyfnaf y gân, eglurodd y Llywydd fwriad y cyfarfod. Mewn gwirionedd, "eitem" arall oedd yr araith hon, cyfle i ddoniau eraill ymbaratoi, a galwyd wedyn ar Wil Baswr ac Eben ei frawd i ruo'r ddeuawd "Mae Cymru'n Barod." Yna daeth tro Meurigfab, a weithiai bonc yn is na Britannia, a gwelid ar unwaith pan droes ef ei gefn ar y gynulleidfa i dynnu'i wallt i lawr tros ei lygaid ac amharchu'i goler a'i dei mai "Ymson y Llofrudd" fyddai'r darn. Gan nad aent hwy ar gyfyl eisteddfodau'r cylch, hwn oedd y tro cyntaf i George Hobley a Robin Ifans glywed am lofruddiaeth Ol ac am ddylanwad yr "uffernawl gwpan" ar ei gŵr. Gwyrodd George ei ben, i bob golwg mewn euogrwydd a chywilydd mawr, gan chwilio'n wyllt am ei gadach