Tudalen:Y Cychwyn.djvu/240

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ond yr ydw' i'n trio bod fel llygodan bob nos."

"Wyt, mi wn, chwara' teg iti. Ond anamal iawn y medra' i gysgu cyn gwbod dy fod di yn dy wely. Mi fydda' i'n gorwadd yn y llofft 'na yn gwrando am yr hen beswch 'na, a phan syrthiaf i gysgu . . . "

"Ia, 'Mam ?"

"Yn cael yr un breuddwyd o hyd o hyd."

"Amdana' i?"

"Ia. Dy weld di'n sâl yn dy wely a'th wynab a'th ddwylo di mor wyn â'r gobennydd a'th lygaid di'n ddisglair ddisglair. Ac wrth erchwyn y gwely ysbryd Jeffra Jones, hen ŵr cas oedd yn byw yn Nhyddyn Cerrig pan on i'n hogan, yn gwenu'n filain . . . "

Chwarddodd Owen. "Mam bach, 'ydach chi ddim yn rhoi coel ar betha' fel'na, 'does bosib'?"

"Nac ydw', ond 'fedar neb ddal i 'studio fel yr wyt ti: mae rhyw afiechyd yn siŵr o afael ynot ti. Cymar yr ysgoloriaeth 'na, wir, Owen bach."

"Ond . . ."

"Nid cardod ydi hi ond gwobr iti am dy lafur, cyfla am hapusrwydd i ti a'r newydd gora' ddaeth i Dyddyn Cerrig ers . . . 'wn i ddim ers pryd. Paid â thaflu'r hapusrwydd i ffwrdd, Owen, 'ngwas i. 'Rwyt ti'n haeddu'r cynnig, a hynny sy'n bwysig. Hynny sy'n bwysig, Owen. Er dy fwyn dy hun, er mwyn Dafydd, er fy mwyn i . . . "

"O'r . . . o'r gora', 'Mam. Dowch, mi awn ni i ddweud wrth Dafydd a Thaid."

Llithrodd Awst heibio'n gyflym iawn, ac yn ystod y mis trefnodd Owen i roi'r gorau i'w waith ar y Gwener cyntaf ym Medi, a ddigwyddai fod yn ben mis yn y chwarel. Gan ei fod i eistedd arholiad bychan mewn Cymraeg a Saesneg ac Arithmetic cyn cael ei dderbyn i'r Ysgol, daliai i astudio'n ddyfal, ond wedi