Tudalen:Y Cychwyn.djvu/239

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o hyd i destun pregeth bron ym mhob brawddeg o'r llythyr. Gadawodd Owen i'r huodledd lifo heibio iddo, gan frysio tros ei swper-chwarel a phenderfynu dianc i'r "siambar" at ei lyfrau. Sylwodd mai ychydig iawn a ddywedai'i fam.

"Isio edrach dros fy ngwaith cyn mynd at Mr. Roberts," meddai, gan godi a mynd o'r gegin.

Yn y "siambar," safodd yn anniddig wrth y ffenestr, gan ei gyfiawnhau ei hun yn ffyrnig. Cardod? Dim, diolch. A dyn a ŵyr pwy a gynigiai'r arian iddo. Ifan Ifans, ar ddim a wyddai ef...

Clywodd glic drws yr ystafell yn cau.

"O hylô, 'Mam."

"Mae arna' i isio siarad efo chdi, Owen."

"Os ydach chi am drio fy mherswadio i . . ." Arhosodd wrth weld y penderfyniad tawel yn ei hwyneb.

"O'r diwadd mae 'na newydd da wedi dwad i Dyddyn Cerrig." Yr oedd rhywbeth pell a dieithr yn ei llais.

"Be' ydach chi'n feddwl, 'Mam?"

"'Ron i wedi mynd i gredu bod rhyw Ffawd angharedig yn gwylio'r tŷ yma. Helbul ar helbul, siom ar siom gafodd y teulu oedd yma o'n blaen ni. Ninna' yr un fath. Dy dad druan, Enid, y tlodi..."

"'Chlywis i 'rioed monoch chi'n siarad fel hyn o'r blaen. 'Rydach chi bob amsar mor. . . Mor beth? "Llon"? Na, ni chofiai'i fam yn llon, ddim er pan fu farw'i dad. Yr oedd hyd yn oed ei chwerthin braidd yn lleddf ac ofnus, fel petai hiraeth yn rhedeg drwyddo. "Hapus?" "Siriol?" Nage, "dewr": ia, "dewr" oedd y gair. Dewr a diwyd a thyner, a'i holl fryd ar gysur ei phlant.

"Naddo, Owen, a 'wna' i ddim eto, gobeithio. 'Rwyt ti'n ifanc, ac yn brysur iawn—yn y chwaral drwy'r dydd, efo dy lyfra' gyda'r nos, i ffwrdd dros amball Sul. 'Chydig o amsar wyt ti'n gael i hel meddylia'. Lawar noson yn hwyr, pan fydda' i'n gwrando am dy sŵn di'n..."