Tudalen:Y Cychwyn.djvu/250

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ur." Ac efallai nad yn Siloam neu Sardis neu Soar neu Bethel y cyfarfyddai'r gwŷr ifainc hynny, ond mewn ystafell seml a phlaen-ba waeth petai'n ddim ond ysgubor heb na Sêt Fawr na phulpud? Mewn ystafell felly y clywodd y cwmni bychan hwnnw gynt am ysbryd a'i nerthai i dystio "yn Jerwsalem a Samaria, a hyd eithaf y ddaear." Beth bynnag a ddygai'r dyfodol, meddyliodd yr hen weinidog, yr oedd un peth yn sicr : y llyfr a fu ar agor ym mhob oedfa yn Siloam a Sardis a Soar a Bethel fyddai sail y gweithgarwch newydd hwn . . . Ia . . . "Canys sylfaen arall nis gall neb ei osod . . ."

Torrodd sain pib ar draws ei feddyliau, ac ymhen ennyd daeth ei wraig a'i wyr i mewn i'r stydi.

"Hylô, lle cest ti'r bib 'na, Meurig?"

"Ffowc y Saer roth hi imi, Taid."

"Un dda ydi hi hefyd, yntê, fachgan?" meddai'r hen ŵr gan ei chymryd yn ei ddwylo a syllu'n edmygol arni. "Mae o'n un clyfar efo'i law, mae'n rhaid. 'Roedd 'i daid o yr un fath." "Mae o am fy nysgu i i'w chanu hi'n iawn, medda fo." "Ac mi wneiff Ffowc hefyd, wsti, os ydi o wedi gaddo . . . Wel, Mary, sut oeddach chi'n gweld Myrddin?"

"Go gwla ydi o, Owen. Ac mi aeth yn reit gas efo Meurig bach gynna'."

"Efo Meurig? Pam?"

"Pan ddaru o ddechra' canu'r bib 'na yn y llofft . . . Wel, be' ydach chi wedi bod yn wneud?"

"Synfyfyrio wrth y tân 'ma, mae arna' i ofn."

"A finna'n meddwl eich bod chi am sgwennu tipyn o'ch atgofion."

'Ron i wedi bwriadu mynd ati, hogan. Own, wir, ond . . .

"Ond be', Owen?"

"Prin y basa' gan neb ddiddordab yn fy nhipyn profiada' i." Syllodd yn dyner arni, yna ar Feurig, ac wedyn crwydrodd ei lygaid tua llun Arthur, tad y bachgen, ar y mur. "Ac eto . . . 'Wn i ddim, Mary . . . 'wn i ddim . . . "