Tudalen:Y Cychwyn.djvu/249

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

𝓔𝓹𝓲𝓵𝓸𝓰

PWY oedd y cyfaill di-enw,' tybed? gofynnodd yr hen weinidog iddo'i hun am y milfed tro. Ebenezer Morris? William Jones neu rywun y gallodd e fddylanwadu arno? Richard Owen, Manchester House? Elias Thomas o'i enillion. prin? Nid oedd ddim gwell o ddyfalu.

Yr oedd hynny mor bell yn ôl, mor bell yn ôl, dros hanner canrif yn ôl. Pwy a fuasai'n meddwl y newidiai'r ardal gymaint yn ystod oes un dyn? Bellach, yn y bore bach, rhuai beiciau, modur a bysiau drwy'r pentref tua gwaelod Lôn Serth, rhuent yn eu holau gyda'r nos, ac yna rhuthrai ugeiniau o bobl i sinemâu Caer Heli, llawer o'r rhai ieuangaf yn prebliach Saesneg—os Saesneg y gellid galw'r peth. Ac yr oedd capeli Llan Feurig bron yn wag bob hwyr, fel temlau urddasol gwareiddiad a chrefydd a oedd ar fin trengi. Sardis y Bedyddwyr, Bethel y Wesleaid, Soar yr Annibynwyr, Siloam y Methodistiaid yr oeddynt i gyd yr un fath . . . Y gaeaf, y gaeaf . . . Yr oedd yn aeaf hefyd yng nghyfnod Whitefield a Howell Harris a John Wesley, a rhyfyg ar ran neb yn yr oes debyg honno fyddai proffwydo gwanwyn a chlywed trwst cerddediad ym mrig y morwydd . . . Ia, mawr a rhyfedd oedd ei weithredoedd Ef . . .

Heb ei ddisgwyl, heb ei adnabod efallai, y dôi'r deffroad. A aeth heibio oes y capelau mawr, y pregethau mawreddog, y cyrddau aml a ffurfiol, y parchusrwydd esmwyth? A fyddai angen gweinidog yn Siloam ym mhen hanner canrif arall? Neu a fyddai neges y Galilead fel cynt yn dân yng nghalon cwmnïau bychain o wŷr a golau datguddiad dwyfol yn eu trem? Ia, i gwmni bychan o rai eithaf disylw y rhoes Ef ei gomisiwn mawr, "Ewch i'r holl fyd a phregethwch yr efengyl i bob cread-