""Wn i ddim," meddai. "Ydi o wedi cael caniatâd i ddŵad i'r chwaral?"
"Wel, mae o yng nghwmni'i dad, Huw Jones," atebodd Robert Ellis.
"Hm... Enw?"
"Owen Ellis," meddai Owen, gan wincio ar ei dad.
"Enwad ?"
"Y?"
"Pa gapal ?"
"Siloam."
"O, Methodus, ia? Mae gynno' ni ddigon o'r tacla' hynny yn y chwaral 'ma'n barod. Ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag.
"Methodistiaid creulon, cas,
Mynd i'r capal heb ddim gras,
Gosod seti i bobol fawr,
Gadael tlodion ar y llawr."
A chwarddodd Huw Jones am chwarter munud am ben ei ddigrifwch ei hun. Chwarddodd ymyl yr het hefyd, gan ddal i ysgwyd yn hir ar ôl i'w pherchennog sobreiddio.
Brysiodd nifer o ddynion heibio i'r wal ar eu ffordd i'r Twll ac ymunodd Robert Ellis â hwy. Gwyliodd Owen ef yn mynd, a theimlai'n falch o'i dad. Ef oedd y dyn mwyaf a'r cryfaf ohonynt oll, dros ei chwe throedfedd a'i ysgwyddau llydain yn ysgwâr a'i ben cringoch yn uchel. Dywedodd un o'i gymdeithion rywbeth digrif wrtho a thorrodd ei chwerthin llon, bachgennaidd, yn ffrydlif drwy'r bonc. Gresyn, meddyliodd Owen, na châi fynd i'r Twll i gynorthwyo'i dad-ac i brofi iddo y gwnâi chwarelwr. Ond fe ddôi cyfle ar ôl y saethu: ni fyddai raid iddo gychwyn adref tan tua deg.
Canai'r corn saith o'r gloch fel y troai'n ôl i'r wal. O Lan Feurig swniai'r corn bob amser yn dirion, a'i lais wedi'i leddfu gan y pellter, ond o agos yr oedd yn groch a haerllug a'i awdurdod