Tudalen:Y Cychwyn.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ddiymwad. Gwyliodd y ddau chwarelwr wrth eu gwaith, Elias Thomas yn hollti clytiau o gerrig ac yn taro ar y pentwr wrth ochr ei bartner y crawiau a ryddhâi'r cŷn a'r ordd, a Huw Jones yn eu cymryd fesul un ar y "drafael", y fainc naddu, ac yn naddu pen ac ochr i bob un â'r gyllell cyn rhwbio hoelen y pren mesur yn gyflym hyd ymylon eraill y grawen er mwyn ei naddu yn llechen o fesurau arbennig.

""Fasat ti'n licio trio, 'ngwas i?" gofynnodd y dyn bach ymhen tipyn.

"Baswn, os ca' i."

Eisteddodd Owen ar y drafael, ac o dan gyfarwyddyd Huw Jones llwyddodd i naddu pen ac ochr i'r grawen, er mai yn boenus o araf y gwnâi hynny. Yna, eto yn araf ac yn hynod ofalus, cymerodd y pren-mesur a marciodd hi, gan orffen naddu'r pen a'r ochr arall iddi yn gywir ar hyd y marciau.

"Wel, wir, mae hwn wedi'i eni'n chwarelwr, Lias Tomos, ydi, 'tawn i'n peth'ma. Y tro cynta' i mi drio fy llaw, mi falis i'r grawen yn dipia' ulw racs, wchi. Ond 'drychwch, mewn difri calon, ar y lechan 'ma! Y gynta' 'rioed iddo fo'i naddu, ac mae hi'n ddigon da i'w rhoi ar do Bycinam Palas unrhyw ddydd ! Ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag."

Gwyddai Owen mai tynnu ei goes yr oedd y bach, ond gobeithiai, er hynny, iddo ddangos peth medr ac y soniai Huw Jones amdano wrth ei dad. Teimlai braidd yn ddig wrth Elias Thomas am nad ymunai ef yn y clod. Ond yn y capel, fel arfer, yr oedd meddyliau'r blaenor.

"Mi fasat yn synnu mwy 'tasat ti yn yr Ysgol Sul efo mi ddoe, Huw," meddai. "Yn y drydedd bennod ar ddeg o Fathew yr oedd y wers, a phan ofynnis i i Owen 'ma egluro dameg y perl gwerthfawr . . ."

Ond bychan oedd diddordeb Huw Jones yn y perl gwerthfawr. "Mi wneiff hwn chwarelwr heb 'i ail, 'gewch weld," meddai. "Ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag... Hwda, tria'r grawan fawr 'ma, Now bach. Marcia a nadda di hi yr un fath â'r llall,