fedr wrth gynorthwyo i lwytho'r wagen â phileri. Yr oedd ganddo awr arall i brofi y gwnâi chwarelwr.
I fyny ar y graig yr oedd plyg fel petai ar fin syrthio ond heb ei lwyr ryddhau gan y tanio.
"Rhaid inni gael hwn'na i lawr, George," ebe Robert Ellis.
"Rhaid, ne' mi fydd hi'n gwd-bei-blewyn arna' ni. Gad i mi fynd i fyny ato fo, Bob," meddai George Hobley, gan daflu golwg bryderus ar y graig uwchben.
Chwarddodd Robert Ellis a chydiodd yng nghynffon ei raff a'i dadfachu o'r piler.
"Mi fydd un sgwd yn ddigon iddo fo, George," meddai, gan roi'r rhaff i orwedd ar wyneb y clogwyn. "Estyn di'r wif 'na imi wedi imi fynd i fyny."
Llithrodd mân gerrig i lawr pan oedd tua deg troedfedd i fyny, a thybiai Owen fod y plyg yn gwyro.
"Y nefoedd, gwylia, Bob, gwylia!" gwaeddodd George Hobley.
Rhoes Robert Ellis droed yn erbyn wyneb y fargen i'w wthio'i hun ymaith, gollyngodd y rhaff yn ei ddychryn, a neidiodd. Landiodd ar ei draed ar wastad caled y llawr a'i ben yn cael ei ysgwyd fel un dol yn y cyhwrdd, ac yna syrthiodd ar ei gefn gan daro'i ben yn greulon yn erbyn darn miniog o graig Gorweddai yn ofnadwy o lonydd yn union o dan y plyg a oedd ar fin syrthio
Rhuthrodd George Hobley ac Owen ato i'w gludo i le diogel, ac ymunodd Huw Jones o'r fargen nesaf â hwy ar unwaith. Yr oedd wyneb y dyn bach yn wyn fel y galchen.
"M . . . mi g . . . gydia' i odano fo, George," meddai. "C . . . cymar di'i . . . goesa' fo, Now bach."
Llwyddodd y tri i'w gael i lecyn clir, a buan yr ymgasglodd nifer o ddynion o'i gwmpas. Tynnodd George Hobley ei gôt a'i phlygu a'i tharo dan ben ei bartner. Diferai gwaed o'r lle